News     21/07/2021

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymateb i’w hymgynghoriad ar Ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymateb i’w hymgynghoriad ar Ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Roedd yr Adolygid Annibynnol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a gadeiriwyd gan yr Athro Syr Simon Wessely, ac a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2018, wedi dod i’r casgliad nad yw’r Ddeddf gyfredol yn gweithio fel ag y dylai ar gyfer cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n cynnig argymhellion ar gyfer creu newidiadau.

Yn dilyn yr Adolygiad Annibynnol, roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bapur gwyn ym mis Ionawr  a oedd wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr Adolygiad ac wedi gofyn am farn eraill ar eu heffaith a sut y dylid mynd ati i’w gweithredu.

Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus dros 14 wythnos ar y papur gwyn wedi derbyn mwy na 1,700 o ymatebion. Wrth gyflwyno’r adroddiad ar yr ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Savid Javid AS a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder Robert Buckland AS: “Rydym yn bles i weld fod yna ystod eang o gefnogaeth ar gyfer y cynigion arfaethedig. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu – mae’r rhain sydd yn ddiwygiadau sydd ond yn mynd i ddigwydd unwaith mewn cenhedlaeth a byddwn yn parhau i gydweithredu wrth eu datblygu a’u cywreinio.”

Mae rôl Adferiad Recovery yn cefnogi cleientiaid i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad.

Dywedodd Prif Weithredwr Adferiad Recovery Alun Thomas: “Dros ddegawd yn ôl, roedd ein haelodau wedi ymgyrchu i roi’r hawl gyfreithiol – i bob un claf yng Nghymru sydd yn defnyddio gwasanaethau uwchlaw lefel Meddyg Teulu – i dderbyn cynllun gofal  a thriniaeth cynhwysfawr. Roeddem wedi llwyddo i sicrhau bod hyn yn dod yn gyfraith fel rhan o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

“Mae’n dda i weld fod y cynnig yn y papur gwyn i sicrhau bod cynlluniau gofal a thriniaeth yn Lloegr yn cael eu gosod ar sail statudol wedi ei groesawu ar y cyfan, gyda nifer yn dadlau y dylai’r cynlluniau fod mor gynhwysfawr a holistaidd  â’r cynllun Cymreig sydd yn cael ei ystyried fel yr esiampl orau.

“Rydym yn nodi fod yn ychydig o bryder, yn enwedig ymhlith seiciatryddion,  y bydd ysgrifennu’r cynlluniau yma yn cymryd amser. Ond bydd cleifion yn dweud wrthynt bod angen, fel isafswm, cynllun eglur a chynhwysfawr ac os caiff ei greu ar y cyd, mae’n medru arbed amser i bawb sydd yn amlinellu pwy sydd yn mynd i wneud beth. Yn fwy na hyn, nid yw cleifion am weld seiciatryddion yn treulio oriau yn eu swyddfeydd yn ysgrifennu cynlluniau: dylid ysgrifennu cynlluniau yn ystod cyfarfodydd gyda chleifion, p’un ai bod hyn gyda’r seiciatrydd neu aelod arall o’r tîm.

“Fodd bynnag, dylem gofio y gallai gweithredu’r papur gwyn hwn wneud ychydig iawn o wahaniaeth i gleifion yng Nghymru. Rydym yn aros am gynllun Llywodraeth Cymru: rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru i ddatblygu eu cynigion cyfreithiol eu hunain ond efallai ei bod am adael i Lywodraeth DU i ddeddfu ar eu rhan – dyma’r eilbeth orau. Rydym hefyd yn aros i weld a fydd Llywodraeth Cymry yn cyfateb neu wella ar y newidiadau polisi ehangach sydd yn cael eu cynnig ar gyfer Lloegr.”

Lawrlwythwch ymateb Llywodraeth y DU yma

Bydd yr ymgyrchydd Jo Roberts sydd am ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn cyhoeddi blog am yr adroddiad dros y diwrnodau nesaf ar dudalen Blog Jo