Gwasanaethau Dydd Sir Gaerfyrddin

Sir:

Sir Gaerfyrddin

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

01267 230791

E-bost:

tony.richards@adferiad .org

Am y Prosiect

Mae Gwasanaethau Dydd Sir Gaerfyrddin a Chanolfan Tŷ Aman yn Rhydaman yn darparu ystod eang o gyfleoedd a gweithgareddau i helpu pobl i adfer o salwch meddwl difrifol. Cynhelir grwpiau yng Nghaerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf a Llanymddyfri, ac yn ein canolfan yn Rhydaman, tra cynigir sesiynau un-i-un ar gyfer cefnogaeth mwy unigolyddol hefyd. Mae’r grwpiau hyn yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i alluogi aelodau i deimlo’n hamddenol, fod rhywun yn gwrando arnynt, ac yn cael cefnogaeth iechyd meddwl hanfodol pan maent ei angen.

Darparwn hefyd ystod o weithgareddau a chyrsiau, sy’n cynnwys cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Gall unrhyw un 18 oed ac uwch, sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, sydd â diagnosis o broblem iechyd meddwl, gael eu cefnogi gan ein gwasanaeth.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein sesiynau grwp yn rhoi strwythur, yn annog rhyngweithio cymdeithasol, a datblygiad sgiliau, hyder a gallu artistig ym mhob defnyddiwr. Mae pob grwp yn mynd ar daith unwaith y mis i gyrchfan sydd wedi ei benderfynu gan gleientiaid mewn cyfarfod misol. Mae gan ganolfan Tŷ Aman hefyd grwpiau gweithgareddau corfforol yn ogystal â sesiwn garddio bob dydd Iau, ble mae aelodau’r grwp yn dysgu sut i dyfu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau. Mae’r gefnogaeth un-i-un rydym yn ei gynnig wedi ei deilwra i fynd i’r afael â’r materion all hwyluso adferiad a gwella ansawdd bywyd y rhai hynny sy’n derbyn gofal.

Mae’r staff yn defnyddio olwyn llesiant Adferiad i edrych ar wahanol ardaloedd o fywyd y cleient i weld ble ellir gwneud gwelliannau, gan ddarparu cefnogaeth unigolyddol.

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau’n broffesiynol gan feddygon teulu, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, a gwasanethau trydydd sector eraill, yn ogystal â gan unigolion drwy hunan-atgyfeiriadau.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni neu os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, trwy ddefnyddio’r manylion uchod, neu fel arall, cysylltwch â 01269 597829 neu barbara.cook@adferiad.org.