News     29/04/2021

CYFWELIAD: Alun Thomas, Prif Weithredwr, Adferiad Recovery

Ar 1af Ebrill 2021, roedd yr elusennau Adferiad Recovery, CAIS, Hafal a’r WCADA wedi uno i greu un elusen newydd: Adferiad Recovery. Matt Pearce wedi sgwrsio gyda chyn Brif Weithredwr Hafal Alun Thomas er mwyn dysgu mwy am yr elusen Newydd a’i rôl fel Prif Weithredwr Adferiad Recovery…

 

Rydych wedi bod yn Brif Weithredwr ar Hafal am chwe blynedd. Beth ydych mwyaf balch amdano?

Yr hyn yr wyf yn fwyaf balch ohono yw ansawdd y gwasanaethau yr ydym wedi darparu ac yn parhau i ddarparu. Mae pob dim yn mynd yn ôl i’r cleientiaid. Pan wyf yn cwrdd gyda phobl yn y prosiectau a digwyddiadau ac yn clywed sut y mae Hafal wedi eu cefnogi fel rhan o’u hadferiad a sut y maent wedi ffynnu, ryw’n falch iawn i fod yn rhan o’r mudiad hwn. Mae rhai o’n cleientiaid wedi bwrw ymlaen gyda’u hadferiad ac yn weithio ym maes iechyd meddwl, weithiau i Hafal, fel eu bod yn medru cefnogi eraill. Pan yn clywed y fath straeon, rwyf wrth fy modd!

Rwyf am barhau i ddatblygu ansawdd y gwasanaeth hwn fel Prif Weithredwr Adferiad Recovery. Rwy’n credu bod cyfle euraidd gennym i rannu profiad a darparu cymorth hyd yn oed mwy cynhwysfawr ac ymatebol yn y mudiad newydd.
Ni fydd hyn yn newid. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn rhan allweddol o ddatblygiad Adferiad Recovery wrth i ni symud ymlaen. Mae angen mwy o weithio mewn partneriaeth yma yng Nghymru ac rwyf am i ni fod wrth wraidd hyn.

Ar raddfa ehangach, yr hyn yr wyf yn fwyaf balch ohono yn ystod fy nghyfnod fel Prif Weithredwr yw datblygu ein gwaith partneriaeth – rydym wedi meithrin rhai cysylltiadau gwerthfawr iawn gyda mudiadau eraill yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r DACW yn enghraifft wych − sef consortiwm Cymreig sydd yn darparu ystod lawn o wasanaethau i bobl sydd ag anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd ac yn dwyn ynghyd ystod o fudiadau, gan gynnwys Hafal, sydd yn cydlafurio ac yn cefnogi ei gilydd. Drwy gysylltu gyda’r mudiadau yma, rydym wedi medru

Yna, wrth gwrs, mae Croesffyrdd Canolbarth a Gorllewin Cymru, a oedd wedi uno gyda Hafal rhai blynyddoedd yn ôl, i ddod yn Hafal Croesffyrdd ac sydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i ofalwyr di-dâl ar hyd a lled canolbarth a gorllewin Cymru. Gyda’n gilydd, rydym wedi dod yn un o’r mudiadau pwysicaf yng Nghymru sydd yn cefnogi gofalwyr – mae hyn yn rhan allweddol o’n cenhadaeth.

Dywedwch mwy wrthym am pam fod Hafal, Adferiad Recovery, CAIS a’r WCADA wedi penderfynu uno?

Mae fy nghefndir i yn y byd nyrsio, a’r hyn yr wyf wedi dysgu o weithio ar y rheng-flaen yw bod angen i ni drin y claf fel person cyflawn. Mae Aelodau Hafal wedi deall y pwynt hwn o’r dechrau: maent wedi dweud wrthym fod angen trin person ag anghenion cymhleth mewn modd holistaidd. Felly, mae’r uno hwn yn ymateb iddynt hwy, a’r cleientiaid yn Adferiad Recovery, CAIS a’r WCADA, sydd yn meddu ar farn a phrofiad tebyg.

Rhaid i ni gofio bod triniaeth ar gyfer caethiwed i gyffuriau neu alcohol un tro yn cael ei ystyried yn rhywbeth ar wahân i’r driniaeth ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl. Darparwyd gofal mewn cyfleusterau gwahanol gan ddefnyddio dulliau gwahanol iawn. O ganlyniad, nid yw llawer o bobl ag afiechyd meddwl byth wedi derbyn triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau a vice versa. Yn aml, byddai rhywun sydd â chaethiwed yn cael ei eithrio o ofal iechyd meddwl.

Rydym yn gwybod o brofiad bod gofal integredig, sydd wedi ei bersonoli yn allweddol i ddarparu cymorth effeithiol. Yna Hafal, rydym wastad wedi hyrwyddo “Dull Person Cyfan” sydd yn ystyried pob agwedd o fywyd person, nid yr afiechyd meddwl yn unig. Mae darparu gwasanaethau sydd yn ddi-dor ac yn mynd i’r afael gyda materion iechyd meddwl a chaethiwed yn gam rhesymegol i ni. Mae meddu ar arbenigedd mewn iechyd meddwl a chaethiwed ‘o fewn y mudiad’ yn mynd i’w gwneud hi’n fwy hawdd o lawer i ni ddarparu pecyn o gymorth sydd yn gynhwysfawr ac ymatebol.

Beth fydd y manteision o ran uno?

Fel sydd wedi ei grybwyll, y brif fantais yw y bydd cleientiaid yn derbyn cymorth gwell gennym. Bydd Adferiad Recovery yn darparu pecyn o gymorth sydd yn addas ar gyfer ystod eang o anhwylderau a materion, ac mewn modd integredig a phersonol iawn. Bydd pobl sydd â phroblemau cymhleth ac sy’n cyd-ddigwydd, yn elwa go iawn o arbenigedd cyfun y mudiad newydd.

Un o amcanion yr elusen newydd fydd trawsnewid gofal i bobl sydd â sawl diagnosis ac yn sefydlu arfer gorau yn y maes hwn sydd yn medru dylanwadu gwasanaethau tu hwnt i Adferiad.

Ar lefel sefydliadol, bydd uno pedwar mudiad llwyddiannus sydd â hanes o ddarparu gwasanaethau a staff safon uchel yn gwneud yn siŵr bod un elusen hynod gryf gennym, gyda set o wasanaethau cadarn a chytbwys. Mae yna nifer o amcanion trosfwaol rhwng y pedair elusen a nifer o wasanaethau sydd yn cydweddu.

Wrth gwrs, drwy ddod yn un elusen fawr, rydym yn medru arbed costau drwy rannu adnoddau. Rydym yn medru cynyddu incwm oherwydd ein bod yn medru gwneud cais am ystod mwy o grantiau. Bydd hyn yn caniatáu i ni wella’r ansawdd a’r amrywiaeth o wasanaethau yr ydym yn medru cynnig i bobl, a’n darparu mwy o sicrwydd hirdymor i’r dyfodol. Mae’n bwysig nodi nad oes yna gynlluniau i gwtogi swyddi ne wasanaethau neu staff: y bwriad yw y bydd yr uno yn creu mwy o sicrwydd i bawb.

Un o’m hamcanion personol yw sicrhau ein bod yn dod yn gyflogwr apelgar. Rwyf am i staff a gwirfoddolwyr i rannu amcanion y mudiad ac i fod yn rhan o’i lwyddiant. Yn benodol, rwyf am i’m staff a’n gwirfoddolwyr i fabwysiadu gwerthoedd blaengar y mudiad, sef uchelgais, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ynghyd â’n cleientiaid a’n Aelodau – ac i bawb i elwa ohonynt. Mae’n ymwneud gyda chreu diwylliant positif a buddsoddi ym mhob un person.

Mae Hafal wedi bod yn fudiad ymgyrchu cryf dros y blynyddoedd, yn enwedig o ran y gyfraith iechyd meddwl. Sut y bydd y rôl hon yn parhau?

Yn sicr, byddwn yn parhau i ymgyrchu’n frwd ar ran ein grŵp cleient a fydd nawr yn ehangach. Bydd hyn yn cynnwys ymgyrchu yn y flwyddyn am Ddeddf Iechyd Meddwl deg a strategaeth iechyd meddwl Gymreig flaengar.

Yn fy marn i, mae’r potensial gan Adferiad Recovery i gael mwy o effaith fel mudiad ymgyrchu. Bydd mwy o gapasiti gennym i ymgyrchu a bydd ein harbenigedd ehangach yn caniatáu ni fynd i’r afael gyda mwy o faterion, a meithrin persbectif mwy gwybodus. Mae Aelodau a chleientiaid wedi gyrru ein hymgyrchoedd ac maent wedi eu llywio gan eu profiadau. Gyda grŵp cleient mwy eang, byddwn yn medru manteisio ar fwy o arbenigedd a phrofiad. Bydd ein llais yn uwch!