News     28/04/2021

Adferiad Recovery yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu deddfwriaeth a pholisïau iechyd meddwl

Mae Adferiad Recovery yn galw am adolygiad sylfaenol gan Lywodraeth Cymru o’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl – a’r sefyllfa bolisi ehangach – ar gyfer cleifion ag anghenion uchel.

Mae hyn yn rhan o ymateb yr elusen i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Bapur Gwyn y Ddeddf Iechyd Meddwl: sef pecyn o gynigion sydd yn ceisio diwygio’r Ddeddf hon sydd wedi dyddio erbyn hyn.

Mae ymateb Adferiad Recovery yn croesawu’r cynigion gan ddatgan: “Roedd Adolygiad Annibynnol Syr Simon Wessely wedi cynnig awgrymiadau ystyrlon a realistig o sut i wella’r Ddeddf gyfredol a pholisi ehangach. Mae’r Papur Gwyn yn ymateb yn bositif i’r Adolygiad ac rydym yn gefnogol o’r cynigion cyffredinol fel ag y maent.”

Fodd bynnag, mae’r ymateb hefyd yn nodi tra bod y Papur Gwyn yn “newyddion da i gleifion a theuluoedd yn Lloegr”, y broblem – yng ngeiriau ymgyrchydd  Adferiad Recovery Jo Roberts (sydd yn y llun) – “y gwirionedd yw (ar gyfer Cymru’n benodol) os y bydd Llywodraeth y DU ond yn deddfu mewn meysydd na sydd wedi eu datganoli (yn bennaf o ran cyfraith droseddol) ac os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth ei hun, yna ni fydd y rhan fwyaf o gleifion a theuluoedd yng Nghymru yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth o gwbl.”

Mae’r ymateb yn galw am adolygiad gan Lywodraeth Cymru ac yn datgan: “Rydym yn credu bod yr amser yn briodol nawr i Lywodraeth Cymru i ddatblygu ei Ddeddf Iechyd Meddwl ei hun gyda tharged o ddeddfu yn y ddwy flynedd nesaf. Er mwyn gwneud hyn, dylai Llywodraeth Cymru  ail-ystyried y cyfuniad o ddeddfwriaeth – a’r sefyllfa bolisi ehangach  – sydd yn briodol i gleifion ag anghenion uchel, yn benodol Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)  2010 a’r Ddeddf Iechyd Meddwl   1983 a’r ddeddfwriaeth eilaidd a’r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig i’r holl gleifion ar lefel eilaidd ac uwch.”

Mae’r ymateb yn rhestru nifer o feysydd allweddol y mae angen i’r Ddeddf newydd i fynd i’r afael gyda hwy gan gynnwys yr angen am:

  • hawliau cilyddol i gleifion, gan gynnwys rhoi hawliau i gleifion cyn bod angen gorfodaeth
  • amgylchedd gwell ar gyfer cleifion dan gadwad a chleifion gwirfoddol
  • dewis gwell i gleifion
  • comisiynu’r holl wasanaethau iechyd meddwl eilaidd drwy atgyfeirio at y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
  • trawsnewid y profiad sydd yn cael ei brofi gan gleifion Duon gyda chymorth yn seiliedig ar adferiad, yn hytrach na’r defnydd arferol o orfodaeth
  • sicrhau bod cymorth i ofalwyr a theuluoedd yn rhan o’r pecyn o gymorth ar gyfer y claf
  • adolygiad sylfaenol o iechyd meddwl a chyfraith droseddol.

Lawrlwythwch yr ymateb llawn yma

 

Mae Adferiad Recovery yn elusen Gymreig newydd a lansiwyd ar 1af Ebrill  2021 sydd yn dwyn ynghyd pedair elusen yng Nghymru- Hafal, Adferiad Recovery, CAIS a’r WCADA – er mwyn creu mudiad newydd deinamig a fydd yn darparu cymorth hanfodol i bobl fregus yng Nghymru a’u teuluoedd a gofalwyr. Darllenwch mwy yma…