Cymorth i Deuluoedd Bro Morgannwg

Sir:

Bro Morgannwg

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00 – 17:00

Am y prosiect

Yn darparu Gwasanaeth Cymorth i Ofalwyr ar gyfer gofalwyr anffurfiol/di-dâl y bobl hynny sydd yn profi ac yn gwella o afiechyd meddwl difrifol. Rhaid bod y person sydd yn derbyn y gofal yn byw o fewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Bro Morgannwg ac mae modd eu hatgyfeirio at y gwasanaeth yn dilyn Asesiad Gofalwyr.

Wedi ei integreiddio cyn hyn fel rhan o’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ond yn dilyn effaith Covid-19, nid yw’r tîm wedi dychwelyd eto i’r swyddfa yn Ysbyty’r Barri.

Mae’r gwasanaeth ar gael 10 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn darparu:

  • Cymorth un i un (rhaglen ymyrraeth 12 wythnos)
  • Gwybodaeth a chyngor e.e. ffôn, newyddlen, atgyfeirio, Clic
  • Cymorth emosiynol e.e. gweithdrefnau llys, adolygiadau meddygol, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, Noddfa i fenywod, cyfarfodydd Cyffuriau ac asiantaethau
  • Cymorth ymarferol e.e. Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian (cyngor ar les, budd-daliadau, dyledion, cyllidebau, hyfforddiant cynhwysiant ariannol), materion tai, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli; atgyfeirio e.e. FACT, gwasanaethau cam-drin yn y cartref, gwasanaethau cwnsela priodas; hyfforddiant; atgyfeiriadau e.e. Asesiadau Gofalwyr.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Trigolion ym Mro Morgannwg sydd wedi derbyn Asesiad Gofalwyr gyda’r Awdurdod Lleol.

Adnoddau