Am y Prosiect
Mae Therapïau Siarad Parabl yn darparu ymyrraethau therapiwtig tymor-byr ar gyfer unigolion sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin neu ddigwyddiadau bywyd heriol a allai fod yn effeithio ar eu llesiant emosiynol. Darperir y gwasanaethau gan gonsortiwm o elusennau, ac maent yn ategu triniaethau eraill sydd ar gael gan Thimau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Rydym yn cynnwys chwe sir Gogledd Cymru. Darperir wasanaethau ar draws ystod o leoliadau ledled Gogledd Cymru, gydag opsiynau ar gyfer apwyntiadau ar y penwythnos a chyda’r nos.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Rydym yn cefnogi unigolion 18 oed a throsodd sy’n byw yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Wrecsam, sydd angen cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl. Mae ein partneriaeth yn darparu ymyrraethau therapiwtig tymor-byr effeithiol ar gyfer pobl sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin a digwyddiadau bywyd heriol a allai fod yn effeithio ar eu llesiant emosiynol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae Parabl yn cynnig:
- Arweinlyfrau hunan-gymorth – yn cynnwys gwahanol ardaloedd o Iechyd Meddwl
- Y Rhaglen Serenity– (CCBT) rhaglen hunan-gymorth rhyngweithiol sy’n eich galluogi i weithio drwy gyfres o fodiwlau hunan-gymorth
- Grwpiau Therapiwtig – cynigiwn ystod o grwpiau therapiwtig a ddarperir mewn lleoliadau cyfleus ar draws Gogledd Cymru
- Therapi unigol – yn cael ei gynnig gyda chwnselydd cymwys ar sail un-i-un
Atgyfeirio
Gallwch hunan-atgyfeirio at Therapïau Siarad Parabl yn gyfrinachol, neu gallech gael eich atgyfeirio gan eich meddyg neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall. Unwaith mae atgyferiaid wedi ei dderbyn, byddwch yn derbyn cynnig o asesiad dros y ffôn i sefydlu sut fyddai orau i ni ddiwallu eich anghenion unigol chi.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.