Fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon, mae Adferiad yn rhoi sylw ar hanes y Sefydliad Hyfforddi Affricanaidd ym Mae Colwyn, stori sydd bron yn angof erbyn hyn.
Daw fel rhan o gyfeillgarwch unigryw rhwng Adferiad a theulu brenhinol y Congo, perthynas a sefydlwyd ers 10 mlynedd.
Mae Adferiad yn falch o’i hanes hirhoedlog o ddatblygu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth amrywiol yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pob cymuned mae’n eu cefnogi. Unodd yr elusen gyda Diverse Cymru yn 2024.
Bydd cyngerdd yn cynnwys cerddorion Congolaidd a lleol yn talu teyrnged i’r hanes amlddiwylliannol cyfoethog sydd rhwng y ddwy genedl. Bydd y cyngerdd yn digwydd ar ddydd Gwener, 24ain Hydref 2025, ac yn cychwyn am 7.15pm yn Ysgol Rydal Penrhos.
Bydd mynychwyr o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn bresennol, yn cynnwys Llysgennad y Congo i’r Deyrnas Unedig, a llawer o rai eraill.
Bydd y ddirprwyaeth yn ymweld â beddi hynafiaid ym Mae Colwyn, ddydd Iau 23ain Hydref, ar safle Sefydliad y Congo, yn ogystal â’r Arddangosfa yn Llyfrgell Bae Colwyn, gan dalu teyrnged i wreiddiau gwreiddiol y bartneriaeth hanesyddol.
Dywedodd Clive Wolfendale, is-gadeirydd Adferiad:
“Mae Adferiad yn falch i gefnogi’r ymweliad hwn gan ein cyfeillion Congolaidd.
“Mae’r darn anhygoel hwn o hanes yn dangos y berthynas hir a phositif rhwng Cymru a’r cenhedloedd Affricanaidd. Mae hefyd yn dangos sut y gall diwylliannau a thraddodiadau harmoneiddio a bod yn gydfuddiannol.”
Noddwyd y digwyddiad gan Adferiad, Cyngor Tref Bae Colwyn, a’r Network for World Awareness of Multicultural Integration https://nwami.org.uk/. Y prif drefnwyr Congolaidd yw’r frenhines Queen Bakembisa Mafuta a’r arweinydd Chief Thomas Bikebi.
Mae’r hanes hirhoedlog hwn rhwng y ddwy genedl yn dyddio’n ôl 1882, pan fu’r Parchedig William Hughes yn pregethu yn y Congo.
Gorfodwyd ef i ddychwelyd adref i Gymru oherwydd gwaeledd, a daeth â dau fyfyriwr gydag ef, a adnabuwyd fel Bechgyn y Congo, fu’n ymweld â chapeli Cymreig ac yn rhoi darlithoedd mewn gwahanol ieithoedd, yn codi arian, ac yn gwerthu ffotograffau. Sbardunodd hyn bartneriaeth rhwng y wladwriaeth Affricanaidd a Gogledd Cymru, wedi i’r cydweithwyr sefydlu ym Mae Colwyn.
Tair mlynedd yn ddiweddarach, sefydlwyd y Sefydliad Hyfforddi Affricanaidd, ble byddai’r myfyrwyr Affricanaidd mwyaf addawol yn cael eu gyrru i Brydain ble roeddent yn gallu dysgu sgiliau newydd a meddygaeth ochr yn ochr ag integreiddio mewn cymunedau a diwylliant, gan eu galluogi i ddod yn genhadon hunangynhaliol yn Affrica.
Erbyn 1903 roedd mwy na 20 o fyfyrwyr o wledydd megis Cameroon, Nigeria, Sierra Leone, Liberia a’r Unol Daleithiau yn hyfforddi yn y sefydliad; erbyn iddo gau roedd mwy na 100 wedi pasio drwy ei neuaddau.
Aeth myfyrwyr o’r sefydliad ymlaen i gael dylanwad sylweddol ar ddatblygiad eu gwledydd cartref ac, hyd yn oed heddiw, mae’r dylanwad yna’n parhau i gael ei gydnabod am ei effaith diwylliannol sylweddol.
Bydd y cyfeillgarwch hwn rhwng y grwpiau yn coffau ac yn dathlu’r cysylltiad hanesyddol a sylfaenwyd gan y Parchedig William Hughes, gyda’r ymwelwyr yn talu teyrnged i feddi’r hynafiaid.