Newyddion     20/04/2026

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw

Mae Sarah, sy’n ddefnyddiwr gwasanaeth Caniad, eisiau rhannu ei stori oherwydd ei bod hi’n gwybod pa mor bwerus y gall profiad byw fod. Mae’n gobeithio, trwy fod yn agored am yr hyn y mae hi wedi bod drwyddo, y gall helpu eraill i deimlo’n llai unig, i roi gobaith i bobl, ac i wthio am well cefnogaeth iechyd meddwl.  

Pan ddechreuodd iechyd meddwl Sarah ddirywio yn 2014, doedd hi ddim yn ei adnabod yn llawn. Yn lle hynny, cadwodd ei hun yn brysur, a hynny’n bennaf drwy wirfoddoli a dysgu pellach. Rhoddodd bwrpas iddi a rhywbeth i ffocysu arno.

 

“Roeddwn yn iawn os oeddwn i’n brysur” meddai. “Roeddwn i jest eisiau helpu eraill. Fy sbardun oedd i wneud yn well i mi fy hun a fy machgen bach, ac roeddwn yn meddwl y byddai gwirfoddoli’n helpu, ac fe wnaeth, am gyfnod.”

Taflodd Sarah ei hun i mewn iddo. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r gwaith, enillodd wobrau am wirfoddoli, a chael cynnig swydd yn y diwedd. O’r tu allan, roedd pethau’n ymddangos i fod yn mynd yn dda.

“Fe wnes i gymaint, hyd yn oed pan o’n i’n sâl.”

Ond islaw, nid oedd pethau wedi diflannu. Roeddent yn dal i adeiladu, os rhywbeth.

“Y mwyaf yr oeddwn yn gwneud yn dda yn fy swydd, yn enwedig wrth weithio gyda phobl gydag anawsterau iechyd meddwl, y mwyaf y dechreuais sylweddoli nad oeddwn i’n iawn.”

Yn dilyn genedigaeth ei hail blentyn yn 2017, roedd ymwelydd iechyd wedi codi pryderon ynghylch PTSD. Aeth Sarah i weld ei meddyg teulu, ond ni ddaeth unrhyw beth o hynny.

“Nid oeddent wedi mynd i’r afael â’r peth, felly fe ddaliais i fynd a chadw fy hun yn brysur. Roedd y teimladau wastad yno; ond roeddwn yn ceisio eu gwthio i ffwrdd.”

Ym mis Rhagfyr 2018, fe agorodd Sarah i fyny am ei brwydrau wrth ei rheolwr o’r diwedd.

“Roeddent wedi dychryn go iawn, oherwydd fy mod i wedi ei guddio mor dda.”

Yna, daeth COVID ym mis Mawrth 2020. Tynnodd gweithio o adref yr holl bethau hynny roedd hi’n dibynnu arnynt i dynnu ei sylw. Daeth bod yn y tŷ â phopeth yn ôl i’r wyneb.

“Am y tro cyntaf ers i’r berthynas trais domestig ddod i ben, roedd yn rhaid i mi eistedd ar fy mhen fy hun gyda fy emosiynau.”

Erbyn mis Ebrill 2020, roedd wedi dod yn ormod, ac fe gafodd ei harwyddo o’r gwaith. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, derbyniodd ddiagnosis o PTSD, a hynny dair blynedd ar ôl iddi godi pryderon am ei hiechyd meddwl gyda’i meddyg teulu’r tro cyntaf.

Ym mis Mai 2020, cyrhaeddodd Sarah bwynt argyfwng.

“Nid oeddwn yn gwybod beth i’w wneud, felly fe ffoniais 999. Ffoniais tua 10 gwaith yn gofyn am help. Oherwydd nad oedd fy argyfwng yn cael ei ystyried fel risg i fy iechyd corfforol, byddent yn gyrru ambiwlans ond ni aethant â mi i’r ysbyty. Roeddwn yn erfyn arnyn nhw.”

Daeth yr heddlu ar ddiwedd mis Mehefin 2020, gydag un swyddog yn dweud wrthi’n ddiweddarach ei bod yn un o’r sefyllfaoedd iechyd meddwl mwyaf cymhleth a welodd erioed, gan ddweud,

“ni ddylai fod wedi cael ei gadael am ychydig oriau, heb sôn am rai wythnosau.”

Bu Sarah mewn argyfwng am chwe wythnos cyn cael ei chadw (‘sectioned’) o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

“Teimlai fel bod popeth yr oeddwn wedi gweithio tuag ato wedi dymchwel.”

Tra roedd hi yn yr ysbyty, daeth pethau’n anoddach fyth. Dechreuodd ei phartner a’i deulu gymryd camau cyfreithiol ynghylch y plant, yn ddiarwybod iddi hi.

“Dychrynodd hynny fi go iawn, oherwydd ei fod ef a’i deulu’n ymddangos i fod mor gefnogol ynghylch yr hyn yr oeddwn i’n mynd drwyddo.”

Wedi iddi gael ei rhyddhau ar ôl ei chadw am 14 diwrnod, dychwelodd adref ac fe gyflwynwyd bapurau cyfreithiol iddi y diwrnod wedyn. Parhaodd y broses llys am naw mis, a hithau ddim ond yn cael dwy awr yr wythnos o gysylltiad dan oruchwyliaeth gyda’i phlentyn ieuengaf yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Roedd hynny’n galed. Doedd gen i ddim amser i brosesu dim byd – roedd yn rhaid i mi ddal i fynd.”

Roedd Sarah hefyd yn derbyn therapi o bell ar y pryd, oherwydd Covid, ond nid oedd yn teimlo’n ddefnyddiol iddi.

“Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghamddeall. Nid oedd yna gysylltiad dynol go iawn, gan nad oeddent yn gallu fy ngweld.”

Wedi bob dim, fe sylweddolodd Sarah bod angen i rhywbeth newid, nid yn unig iddi hi, ond i eraill oedd yn mynd drwy brofiadau tebyg. Roedd hi eisiau rhywbeth oedd yn teimlo’n fwy dynol, ble roedd ots am ei llais a’i phrofiad hi, a ble y gallai ddechrau i ailadeiladu gobaith ar gyfer y dyfodol.

Ymunodd Sarah â Choleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro yn 2021, ble  dechreuodd ddeall am iechyd meddwl a’i phrofiadau hi ei hun yn well.

“Fe helpodd fi i wneud synnwyr o bethau go iawn.”

Trwy hynny, daeth i gysylltiad â Caniad, gan gymryd rhan ar-lein i ddechrau pan roedd yng Ngogledd Cymru ac yn fwy gweithredol pan ddaeth i Gaerdydd.

“Bu cymryd rhan yn Caniad yn gymaint o help i mi. Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth dderbyniais i.”

Trwy Caniad, teimlai Sarah ei bod yn cael ei chlywed, ei deall, a’i gwerthfawrogi. Nawr, mae Sarah yn cymryd rhan yn ngwaith Perfformiad a Gwella GIG Cymru yng Nghymru, gan ddefnyddio ei phrofiad byw i helpu i siapio gwasanaethau iechyd meddwl ac i roi rhywbeth yn ôl.

“Oni bai am y gefnogaeth honno gan Caniad, yn enwedig Jason a Chloe, ni fuaswn yn gwneud dim o’r gwaith hwn ar gyfer Perfformiad a Gwella GIG Cymru.”