Newyddion     06/03/2026

Llety â Chefnogaeth: Gofal Pwrpasol a Chydgysylltiedig yn yr 21ain Ganrif

Llety â Chefnogaeth: Gofal Pwrpasol a Chydgysylltiedig yn yr 21ain Ganrif

Mae llawer o feirniadaeth yn cael ei anelu tuag at wasanaethau sydd nid yn unig yn gweithio mewn seilos, ond sydd hefyd yn ymddangos i wrthod gweithio gyda’i gilydd yn rhagweithiol. Gwelir hyn, yn annheg ar adegau, fel bod ar ei waethaf yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Ond mae Llety â Chefnogaeth yn gwrthod asesiad o’r fath, ac yn rhoi’r syniad o weithio mewn partneriaeth yn ganolog i’r modd mae cynlluniau’n cael eu datblygu a’u gweithredu.

Wrth olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1974, pan arloeswyd y model gan wirfoddolwyr oedd yn fyfyrwyr yn Nhrelái, mae Llety â Chefnogaeth yn cyfeirio at gynlluniau tai cymdeithasol sy’n darparu gofal bersonol a chefnogaeth i bobl fel rhan o’u tenantiaeth, gan eu galluogi i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Er bod y gofal a’r llety yn cael eu darparu o dan gytundebau ar wahân, a gan wahanol sefydliadau yn aml, darperir yr holl wasanaethau yn ddi-dor ac mewn partneriaeth, ni waeth pwy sy’n gyfrifol am ei ddarnau cydrannol. Yn cael eu gweithredu mewn clystyrau bach o dai fel arfer, mae’r llety’n aml yn cynnwys gofodau â rennir, ond mae gan bob person eu cartref eu hunain. Mae’r gefnogaeth a’r gofal a ddarperir yn helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl, gan eu galluogi i ddewis ble maent yn byw, gyda phwy mae nhw’n byw, sut yr hoffent gael eu cefnogi, ac, yn fwyaf pwysig, yr hyn sy’n digwydd o fewn eu cartref eu hunain.

Mae Adferiad yn falch i gymryd rhan mewn darparu llety â chefnogaeth ar draws 21 gwahanol eiddo ar draws Cymru, yn cynnwys cynllun sy’n gweithio ar draws 5 gwahanol leoliad yn yr union ddinas ble daeth y model i’r amlwg i ddechrau, Caerdydd.

Yr wythnos diwethaf, roddem yn falch iawn o fynychu agoriad swyddogol yr ychwanegiad diweddaraf i bortffolio Llety â Chefnogaeth Caerdydd – Blenheim Court, wedi ei ddarparu mewn partneriaeth gyda Cadwyn Housing Association, Albany Road Baptist Church, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Mae Blenheim Court yn darparu 12 o fflatiau un llofft ar draws dau lawr, ynghyd â chaffi croesawgar a gofodau cyfarfod cymunedol.

Bu trawsnewidiad yr adeilad hwn i mewn i amgylchedd cynnes, diogel a chefnogol yn bosibl oherwydd ymroddiad a chydweithrediad pawb fu’n gysylltiedig. Wedi ei gyllido yn rhannol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dengys y cynllun yr hyn y gellir ei gyflawni pan mae sefydliadu’n gweithio gyda’i gilydd i gyfarfod anghenion lleol.

Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol ar ddydd Mawrth, 24ain Chwefror, roddodd y cyfle i’r gwesteion i edrych o gwmpas y cyfleusterau gwych. Roeddem hefyd yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, a fynychodd i weld y cynllun ei hun, ac i ddysgu mwy am y bartneriaeth a’r gwasanaethau a ddarperir.

Mae’r gefnogaeth rydym yn ei darparu yn Blenheim Court a Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth ehangach Caerdydd, a gomisiynir gan Gofal Cymdeithasol Cyngor Dinas Caerdydd, yn dilyn model Craidd a Chlwstwr, ble mae unigolion yn dal eu tenantiaethau eu hunain tra’n derbyn gofal a chefnogaeth wedi eu teilwra’n unigol ac yn y cefndir. Mae’r ymagwedd yma’n galluogi pobl sydd ag anghenion cymhleth i fyw mor annibynnol â phosibl, gyda’r sicrwydd bod y gefnogaeth gywir ar gael yno pan fydd ei hangen.

Ein nod yw i ddarparu cefnogaeth person-ganolog sy’n helpu’r unigolion hyn i sefydlogi eu bywydau, i reoli eu hiechyd meddyliol a chorfforol yn well ac i wella ansawdd cyffredinol eu bywydau a’u hannibyniaeth.

Mae Blenheim Court yn cynrychioli’r potensial am ymdeimlad o gymuned. Gyda Cadwyn a phartneriaid eraill, rydym yn falch o gymryd rhan i ddarparu gofod diogel a chefnogol ble gall unigolion symud ymlaen gyda’u bywydau.

O ddechrau bach dros 50 mlynedd yn ôl, mae’r cysyniad o Lety â Chefnogaeth wedi dod yn esiampl disglair o weithio mewn partneriaeth ac yn fodel y gellir adeiladu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, sy’n addas ar gyfer dyfodol, arno.