Newyddion     02/03/2026

Prosiect Cyfle Cymru Wedi ei Ymestyn Hyd Mis Mawrth 2027

Prosiect Cyfle Cymru Wedi ei Ymestyn Hyd Mis Mawrth 2027

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein prosiect mentora cymheiriaid a cefnogaeth cyflogaeth, Cyfle Cymru, wedi ei ymestyn hyd mis Mawrth 2027.

Mae’r rhaglen a ariennir gan Raglen Allan o Waith Llywodraeth Cymru, a arweinir gan Adferiad ers 2022, a ddarperir mewn partneriaeth gyda Barod a Kaleidoscope, wedi cefnogi mwy na 9,000 o bobl ar draws 5 ardal bwrdd iechyd yng Nghymru i gael mynediad i gyfleoedd addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth. Trwy ddefnyddio eu profiadau eu hunain o heriau defnydd sylweddau a iechyd meddwl, mae tîm Cyfle Cymru o dros 80 o Fentoriaid Cymheiriaid yn helpu pobl ar eu siwrnai adferiad eu hunain i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, gan ddarparu dros 125,000 awr o gefnogaeth hyd yn hyn.

“Mae’r sefydliad hwn wedi cael effaith anhygoel ar fy mywyd a’n adferiad, ac ni allaf ddiolch iddynt ddigon am eu cefnogaeth. Mae Cyfle Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan o’u cenhadaeth.” – Chris, Defnyddiwr Gwasanaeth

“Mae gwirfoddoli gyda Cyfle Cymru wedi fy ngrymuso i droi’r boen yn bwrpas. Rwy’n gobeithio y bydd fy siwrnai yn ysbrydoli eraill i gymryd y cam cyntaf – boed hynny i chwilio am help, i roi’n ôl, neu i gredu y gall pethau wella.” – Charlie, Defnyddiwr Gwasanaeth

Gyda pwysau cynyddol i fynd i’r afael â diweithdra, mae ymrwymiad Cyfle Cymru i ddatblygu cyflogadwyedd cyfranogwyr a dod o hyd i swyddi diogel, cynaliadwy iddynt yn parhau i ddisgleirio, gyda thua 800 o bobl yn cael eu cefnogi i mewn i swyddi a 3,700 arall yn cael eu cefnogi ar eu taith tuag at gyflogaeth. Mae dros
2,000 o bobl wedi caffael cymhwyster neu dystysgrif newydd drwy’r gwasanaeth, a mwy na 2,000 wedi cymryd rhan mewn gwirfoddoli cymunedol; cerrig milltir yn eu hadferiad na fyddent, o bosibl, wedi eu cyflawni heb gefnogaeth eu mentor cymheiriaid.

“Bob dydd, rwy’n gweld pobl yn cymryd camau nad oeddent erioed wedi meddwl fyddai’n bosibl. Gwn sut mae hynny’n teimlo, a dyma’r rhan mwyaf gwerth chweil o’r hyn rwy’n ei wneud. Dyma beth sy’n gwneud gwasanaethau a arweinir gan gymheiriaid mor bwerus, mae pobl yn gwybod eich bod yn deall oherwydd eich bod wedi bod yno. Nid geiriau gwag yw’r rhain, rwyf wedi troedio’r llwybr hwnnw.” – Danielle, Arweinydd Tîm

Nid mewn rhifau a thargedau mae llwyddiant gwirioneddol Cyfle Cymru, ond yn storïau ei gyfranogwyr a’r bywydau mae wedi eu newid, ac yn y gwahaniaeth mae Cyfle Cymru wedi ei wneud, ac yn parhau i’w wneud i fywydau a chymunedau ar draws Cymru. Mae’n fwy na Gwasanaeth Allan o Waith, mae’n ysgwydd i bwyso arni pan mae pobl ar eu siwrnai adferiad ei hangen fwyaf. Mae Mentoriaid Cymheiriaid yn gwybod sut mae adferiad yn edrych ac yn teimlo, maent wedi cerdded milltir yn esgidiau’r cyfranogwyr ac yn eu hysbrydoli i gymryd camau positif i newid eu bywydau er gwell – gyda llawer yn symud ymlaen i fod yn Fentoriaid Cymheiriaid eu hunain!

“Mae’r bobl rwyf wedi eu cyfarfod – y cleientiaid, y tîm, y storïau – yn fy atgoffa pam es i drwy’r hyn a wnes i. Rwyf wedi dysgu y gall ein hadegau tywyllaf ein harwain i’r lle ble rydym i fod.” – Sean, Mentor Cymheriaid

Rydym ni’n edrych ymlaen at weld llwyddiant parhaus Cyfle Cymru dros y flwyddyn nesaf!