Am y Prosiect
Mae ein gwasanaethau’n cefnogi unigolion sy’n profi materion sy’n ymwneud â defnydd sylwedday yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae dau brif nod o fewn ein gwasanaethau: lleihau niwed, ble rydym yn gweithio gyda chleientiaid i leihau’r niweidiau o’u defnydd sylweddau, yn cynnwys addysg ac ymwybyddiaeth a darpariaeth nodwyddau a chwistrellau, yn ogystal â’n gwasanaethau ymatal ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno cyflawni a chynnal adferiad parhaus o gaethiwed. Cynigwn ystod eang o opsyinau triniaeth yn cynnwys allgymorth, un-i-un, gwaith grŵp, gweithgareddau dargyfeiriol, yn ogystal â llwybrau atgyfeirio cryf gyda’r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol ar gyfer ystyried dadwenwyno a rhagnodi. Hefyd, darparwn gynrychiolaeth ar banel Haen 4 Bae’r Gorllewin sy’n ystyried unigolion ar gyfer lleoliadau adsefydlu ar draws y Deyrnas Unedig.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unigolion sy’n ddibynnol ar sylweddau ac/neu’n arddangos defnydd problemus o 25 oed ac uwch. Gweithiwn gydag unigolion o fewn yr asiantaeth neu, os oes ganddynt broblemau symudedd, yn eu cartref ar sail allgymorth. Gweithredwn glinig lloeren yn Cymmer i wneud cefnogaeth yn fwy hygyrch i gyrraedd unigolion a effeithir sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell ac yn cael anhawster i gael mynediad i wasanaethau arbenigol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae ein gwasanaethau’n cydnabod bod amgylchiadau pob person yn unigrwy a bod y sylweddau’n fater sy’n cyflwyno’n rheolaidd ond nad hyn yw’r mater sylfaenol. Yn dilyn asesiad llawn o’u hanghenion, gall y cleient gael mynediad i ystod o opsiynau triniaeth, yn cynnwys un-i-un, Y Recovery Cafe, y grŵp Towards Recovery, y grŵp A Look at Steo 1, y grŵp triniaeth sylfaenol, aciwbigo clustiol, a gweithgareddau dargyfeiriol. Mae gennym lwybrau atgyfeiro cryf gyda’r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cael mynediad i ragnodi neu ddadwenwyno, ac mae ein Bws Cymunedol yn galluogi staff i gyrraedd unigolion sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac yn methu mynychu’r asiantaethau.
Atgyfeirio
I gael eich derbyn i mewn i’n gwasanaeth, mae’n rhaid i chi fod yn 25 mlwydd oed neu uwch, angen cefnogaeth gydag alcohol ac / neu gyffuriau, ac yn byw yn Abertawe neu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Derbyniwn hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol drwy wasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf Newid Cymru (‘FPOC’).
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch:
Abertawe: 01792 472519
Castell-nedd Port Talbot: 01639 890863/NPT@newidcymru.co.uk