Cynllun Grantiau Bach Gofalwyr Caerffili

Sir:

Caerffili

Manylion cyswllt

E-bost:

caerphillysmallgrants@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Grantiau Bach Gofalwyr Caerffili yn gynllun ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gan roi mynediad i unigolion sy’n gofalu am anwylyd i gymorth ariannol untro gyda’r nod o gefnogi eu rôl ofalu a helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw.

Yn rhy aml o lawer, mae Gofalwyr Di-dâl yn anwybyddu eu hanghenion eu hunain. Nod Cynllun Grantiau Bach Caerffili yw gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws i unigolion sy’n gofalu am aelod o’r teulu, ffrind, partner neu gymydog a helpu i leddfu’r pwysau o gynnydd mewn costau byw.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Gall y cynllun hwn gefnogi pob gofalwr di-dâl sy’n byw ym Mwrdeistref Caerffili. Gallai gofalwyr di-dâl fod yn berthnasau, ffrindiau, partneriaid neu gymdogion sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol dyddiol i unigolyn sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol gan gynnwys niwroamrywiaeth a dementia.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae grantiau bach o hyd at £300 ar gael i’ch cefnogi yn eich rôl ofalu.

Gellir dosbarthu’r £300 fel talebau ar gyfer:

  • prynu nwyddau gwyn, eitemau yn y cartref neu offer a fydd yn eich helpu yn eich dyletswyddau gofalu, rhyddhau mwy o amser neu leihau’r straen o dasgau penodol

NEU

  • talebau archfarchnad i brynu dillad neu fwyd i’ch helpu chi a’r person rydych yn gofalu amdano gyda’r argyfwng costau byw presennol

Atgyfeirio

Gall gofalwyr neu eu gweithwyr cymorth gysylltu gan gysylltu â caerphillysmallgrants@adferiad.org i dderbyn y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i ofalwyr o dan 16 oed cwblhau’r cais gyda oedolyn.

Gall prosesu gymryd hyd at 4 wythnos.