Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Mae ein tîm o ymgynghorwyr yma i’ch cefnogi chi gyda eich anghenion busnes. Darganfyddwch sut gallwn ni helpu eich sefydliad chi i dyfu a gwella.

Cliwciwch yma i weld ein llyfryn ymgynghoriaeth
Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Sut gallwn ni helpu?

Fel elusen, mae llywodraethu effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau atebolrwydd, tryloywder, a reolaeth gyfrifol, a thrwy hynny ddiogelu eich cenhadaeth, enw da, ac effaith. Trwy fabwysiadau strategaethau effeithlon, gall elusennau wneud y mwyaf o’u dylanwad a sbarduno newid cadarnhaol yn eu cymunedau. 

Mae ein tîm amlddisgyblaethol o ymgynghorwyr gweithredol a busnes proffesiynol yn cyfuno degawdau o brofiad a gwybodaeth arbenigol yn eu maes arbenigedd penodol, ar ôl gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat, a’r trydydd sector, a thrwy hynny yn sicrhau bod ein gwasanaethau wedi’u theilwra i ddiwallu anghenion amrywiol ein cleientiaid.  

Rydym yn deall bod pob sefydliad yn unigryw, a dyna pam mae ein gwasanaethau ymgynghori wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg ac yn addasadwy, gan ddarparu atebion pwrpasol sy’n cyd -fynd yn union â’ch amcanion. Nad yw’n gyfyngedig i’r meysydd gwaith penodol uchod, gall ein tîm o ymgynghorwyr gyflwyno darnau o waith wedi’u theilwra ar sail eich anghenion, gan gynnwys:

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth
Gwasanaethau Busnes 
  • Datblygu Polisi 
  • Cynllunio ac Ymgynghoriaeth Hyfforddiant 
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth 
  • Datblygiad 
  • Archwiliadau a Chydymffurfiaeth 
  • Ymchwiliadau 
  • Rhyngweithiadau Siopwr Cydd 
Gwasanaethau Gweithredol 
  • Cynllunio gwasanaethau newydd 
  • Ymgynhoriadau staff TUPE ac integreiddio timau 
  • Arolygiaeth Gofal Cymru – archwiliad cyn-arolygiad ac argymhellion 

Ein Ymgynghorwyr

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Alun Thomas

Mae Alun yn Nyrs Cofrestredig Cyffredinol sydd wedi gweithio yn y GIG, sydd wedi datblygu gwasanaeth adferiad niwrolegol yn y sector gofal iechyd preifat ac, yn ei amser gydag Adferiad, wedi arwain y sefydliad drwy ddatblygiad cyfleuster cleifion mewnol a arweinir gan ei ddefnyddwyr sy’n cael ei redeg gan yr elusen.

Dechreuodd Alun gyda’r sefydliad yn 2001, mewn rôl rheoli gweithredol cyn cymryd y dirprwy swyddogaeth yn 2003. Yn y rôl honno, bu’n gweithio ar draws pob agwedd o ddatblygiad sefydliadol, ymgyrchu, ymgysylltiad gwleidyddol a lleol, adnoddau dynol, cyllid, a darpariaeth gwasanaeth. Yn ystod ei amser gydag Adferiad, mae Alun wedi cyflawni gradd LLB dosbarth cyntaf (gydag anrhydedd) gyda’r Brifysgol Agored a gradd Meistr mewn Moeseg Lles Cymdeithasol; ar hyn o bryd mae’n ymgymeryd â gradd doethuriaeth yn y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei draethawd ymchwil yn archwilio sut y gallai deddfwriaeth benodol i Gymru ddarparu hawliau ychwanegol i gleifion. Mae Alun wedi cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn San Steffan ac i Lywodraeth Cymru ar ddatblygiad y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), ac roedd yn aelod o Banel Ymgynghorol yr Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bu hefyd yn aelod o banel cyfeirio allanol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac hefyd yn stiward arweiniol a chadeirydd cangen i’r Coleg Nyrsio Brenhinol.

Cafodd Alun ei benodi fel Prif Weithredwr Hafal yn 2014 ac, yn 2016, fe arweiniodd gyfuniad sefydliadol Hafal a Crossroads Canolbarth a Gorllewin Cymru a gryfhaodd a sicrhaodd ddyfodol y gwasanaethau Crossroads, ac fe ehangodd gynnig y sefydliad mwy i gynnwys pobl sydd ag ystod o anghenion iechyd corfforol.

Roedd Alun yn Ymddiriedolwr sefydlu yn Mental Health UK ar ran Adferiad Recovery, ac mae’n cynrychioli Adferiad fel Ymddiriedolwr yn Datblygu Cymru Gofalgar.

Penodwyd Alun yn Brif Weithredwr Adferiad Recovery yn yr uno yn 2021, wedi iddo fod yn rhan o’r tîm ddaeth â’r uniad at ei gilydd ac mae’n edrych ymlaen i wella a datblygu’r sefydliad newydd cyffrous hwn yn barhaus.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Sharon Jones

Mae Sharon wedi gweithio gydag Adferiad a’i sefydliadau rhagflaenol ers dros 30 mlynedd ac wedi cyflawni bron pob rôl y gallwch feddwl amdani yn y trydydd sector. O waith gweinyddol lefel sylfaenol ar sail rhan-amser, i ddarpariaeth gwasanaeth, rheolaeth leol, digwyddiadau, ymgyrchu, materion cyhoeddus, arweinyddiaeth sefydliadol ac, yn diweddar, fel Dirprwy Brif Weithredwr sefydliad sydd â dros 750 o staff.

Angerdd mawr Sharon yw’r ymgysylltiad gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a’r angen i’w barn fod o’r pwys mwyaf ym mhopeth a wnawn. Mae Sharon wedi gweithio gyda chleientiaid sydd wedi treulio nifer o flynyddoedd mewn lleoliadau o’r diogelwch uchaf ac mae ganddi ddealltwriaeth gref ac empathi tuag at y rhai hynny sy’n parhau i gael eu cyfyngu gan y ddeddf iechyd meddwl. Mae gan Sharon brofiad sylweddol o ymgysylltu gyda gwasanaethau diogel, tribiwnlysoedd y ddeddf iechyd meddwl, a theuluoedd a gofalwyr rhai o’r cleientiaid mwyaf cymhleth, a bob amser yn cael ei gweld fel brocer gonest rhwng cleientiaid, teuluoedd, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n delio â nhw.

Ble mae’r angen am adolygiad gwasanaeth mae arbenigedd Sharon o weld pethau o safbwynt  y defnyddiwr gwasanaeth / gofalwr a safbwynt y darparydd yn cynnig mewnwelediad unigryw i’r heriau mae llawer o wasanaethau gweithredol yn eu hwynebu pob dydd.

Mae gan Sharon ystod o gymwysterau sy’n benodol i’r sector, ac arweinyddiaeth a rheoli, a chyfoeth o sgiliau sefydliadol wedi’u datblygu o’i gyrfa flaenorol mewn Yswiriant a Bancio.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Aled Davies

Mae Aled yn Gymrawd Siartredig y Sefydliad Siatredig Personél a Datblygu gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn adnoddau dynol, gan weithio mewn amrywiaeth o rolau a diwydiannau mewn sefydliadau bach, canolig a mawr yn y sector gyhoeddus, y sector breifat a’r trydydd sector. Mae’n gymwys gyda’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ac yn meddu ar Radd Meistr mewn Datblygiad Strategol a Phersonél, gyda dawn am ddatblygu sefydliadol a galluogi newid trawsnewidiol. Mae’n angerddol am gyflawni canlyniadau trwy bobl gan wella ymgysylltiad a pherfformiad cyflogai a chyfalaf dynol ar yr un pryd.

Adnabyddir Aled am ei ddreif, ei benderfyniad a’i bragmatiaeth sydd wedi bod yn sail i’w lwyddiant wrth hwyluso newid diwylliannol, rheoli heriau pobl cymhleth a gwella gwytnwch y gweithlu. Daw Aled â chyfoeth o brofiad profedig sy’n galluogi sefydliadau i gyflawni eu nodau ac i fynd i’r afael â heriau sy’n ymwneud â phobl.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Donna Chaves

Daw Donna â dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector gyhoeddus a’r trydydd sector, gyda chefndir cryf mewn data, technoleg gwybodaeth a chydymffurfiaeth ac, yn fwy diweddar, cyfathrebu a materion allanol. Ers ymuno ag Adferiad yn 2017, mae Donna wedi bod yn ymrwymedig i hyrwyddo ymagweddau dulliau iechyd digidol yn y trydydd sector ac mae’n angerddol iawn am arddangos effaith yr elusen tra’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Fel Swyddog Diogelu Data Adferiad, arweiniodd Donna weithrediad llwyddiannus GDPR yn 2018, gan oruchwylio rheolaeth prosiect y trawsnewidiad hanfodol hwn. Mae ei gwaith mwy diweddar wedi canolbwyntio ar integreiddio AI, ble mae’n llywio mentrau’r elusen yn y maes arloesol hwn.

Mae Donna hefyd wedi bod yn gyfryngol wrth ddatblygu a gweithredu strategaethau Cyfathrebu, Polisi, ac Ymchwil, gan sefydlu’r meysydd hyn fel swyddogaethau allweddol o fewn y sefydliad. Mae ei harweinyddiaeth wedi sicrhau bod data a thechnoleg gwybodaeth ar y blaen o ran dyluniad, darpariaeth a thrawsnewidiad gwasanaeth, gyda’r nod o wella deilliannau ar gyfer holl randdeiliaid Adferiad.

Cymwysterau:

  • ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Diogelu Data
  • HND mewn Rheolaeth Busnes
  • Yn bresennol, yn dilyn Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes

Mae Donna yn angerddol am ymgorffori llais profiad byw i mewn i bob agwedd o waith yr elusen, gan ddefnyddio data a thechnoleg i ysgogi trawsnewidiad, a sicrhau bod Adferiad yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn iechyd i wella’r deilliannau ar gyfer pawb mae’n eu gwasanaethu.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Kim Ellis

Kim Ellis, ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ysbyty, Preswyl a Therapiwtig

Mae Kim wedi gweithio i Adferiad ers 16 mlynedd ac yn goruchwylio holl wasanaethau cwnsela Haen 4 Adferiad. Mae Kim yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig, sy’n brofiadol o ran gweithio gydag ymddygiad heriol, salwch meddwl a defnydd sylweddau, mewn rolau nyrsio, therapiwtig a rheoli. Mae gan Kim radd Baglor mewn Nyrsio gydag Anrhydedd (iechyd meddwl), a gradd FdA mewn Camddefnydd Sylweddau ac ILM Lefel 5 mewn Datblygiad Arweinyddiaeth a Rheoli.

Credai Kim mewn meithrin amgylchedd gwaith cydweithredol, gan sicrhau bod pob aelod o’r tîm yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn eu rôl. Mae’n arwain ar ein gwasanaeth sefydledig llesiant a chefnogaeth staff, gyda phrofiad o sefydlu gwasanaethau o’r fath, mae ganddi ffordd dawelgar gyda phob agwedd o’i gwaith ac yn ymrwymedig i lesiant staff a chleientiaid, ac yn ymfalchïo o greu amgylchedd trugarog a chefnogol i bawb.

Mae’n brofiadol mewn gwneud penderfyniadau hanfodol o dan bwysau, gan ddefnyddio dull strategol a dadansoddol  i ddatrys problemau tra’n cynnal safonau moesegol uchel , gan sicrhau diogelwch a llesiant staff a chleientiaid. Mae Kim wedi ymrwymo i fentrau gwella ansawdd parhaus ac yn gweithio i greu diwylliant o welliant parhaus, gan fynd ati i chwilio am gyfleoedd i fireinio, i optimeiddio ac ehangu ein gwasanaethau.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Lianne Martynski

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn Adferiad a’i sefydliadau rhagflaenol, mae Lianne wedi llywio ystod amrywiol o rolau, yn esblygu o weinyddu i fod yn uwch reolwr. Yn bresennol, mae’n gweithredu fel y Cyfarwyddwr Gweithrediadau (Y De), ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol ar draws gwahanol sectorau, yn cynnwys adnoddau dynol, cyllid, iechyd meddwl, a chyfiawnder troseddol.

Mae ymrwymiad Lianne i bobl yn ddiwyro; credai bod y defnyddwyr gwasanaeth yn greiddiol i bob menter. Mae ei hangerdd am arweinyddiaeth a rheolaeth yn amlwg yn ei gwaith, boed hynny’n trefnu digwyddiadau dylanwadol, yn ymgyrchu am newid, neu’n darparu gwasanaethau o safon. Mae Lianne yn eiriolwr ymroddedig dros drawsnewidiad positif, ac yn parhau i ysgogi cynnydd ym mhob maes mae hi’n ymgysylltu ag ef.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Naomii Oakley

Mae Naomii yn dod â phrofiad helaeth o ddarparu gwasanaethau, mentora cymheiriaid, ac arweinyddiaeth o fewn y trydydd sector. Dechreuodd Naomii ei thaith drwy arwain y ffurfiad o ‘Word on the Street’, grŵp defnyddwyr gwasanaeth a bartnerodd â Phrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn i gynnal ymchwil allweddol ar rwystrau mynediad i wasanaethau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau. Dylanwadodd y gwaith hwn yn uniongyrchol ar argymhellion Llywodraeth Cymru, gan arwain at greuadigaeth gwasanaethau mentora cymheiriaid gyda’r nod o wella mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr.

Fel Rheolwr Gwasanaeth, llwydodd Naomii i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r prosiect mentora cymheiriaid cyntaf yng Ngogledd Cymru a chyfrannodd at ehangu’r gwasanaethau hyn ledled y wlad. Mae ei harweinyddiaeth strategol wedi bod yn rhan annatod o sicrhau a rheoli nifer o gontractau Llywodraeth Cymru, gan alluogi cyflwyno prosiectau mentora cymheiriaid ledled Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector eraill.

Yn ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau (Gogledd), mae Naomii yn goruchwylio nifer sylweddol o wasanaethau, gan sicrhau bod profiad byw yn parhau i fod wrth wraidd pan yn dylunio a darparu gwasanaethau. Mae ei harweinyddiaeth yn parhau i wella effaith Adferiad ar gymunedau ledled Cymru, gan gyd-fynd â chenhadaeth y sefydliad i wella canlyniadau i’r rhai sy’n wynebu heriau cymhleth. Yn ystod ei gyrfa mae Naomii wedi arwain ar ddatblygu nifer o wasanaethau trydydd sector mewn meysydd fel tai a digartrefedd, cymorth i gyn-filwyr a chyflogaeth a mentora.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Sandy Ackers

Mae gan Sandy dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector preifat a’r trydydd sector. Fel cyfrifydd cymwysiedig gyda gwybodaeth helaeth am gyllid elusennol, mae Sandy yn arbenigo mewn datblygu busnes a chynllunio ariannol. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys datblygu a sefydlu tîm a phrosesau cyllid yn llwyddiannus, yn dilyn uno sefydliadol cymhleth, gan sicrhau integreiddio di-dor a gwell gweithrediadau ariannol.

Wedi’i chymhwyso i lefel gradd meistr yn Arloesedd Mentrau Cymdeithasol, mae gan Sandy ddealltweriaeth ddofn o’r heriau a wynebir gan fentrau dielw a chymdeithasol ac mae’n fedrus a profiadol wrth alinio strategaethau ariannol â nodau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth, gan helpu sefydliadau i wneud y mwyaf o’u heffaith gymdeithasol, tra’n cynnal sefydlogrwydd ariannol.

Mae Sandy yn frwd dros gefnogi elusennau bach a busnesau dielw i wella eu cynaliadwyedd ariannol ac ysgogi twf.

  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig
  • MSc – Arloesi a Datblygu Mentrau Cymdeithasol
  • ILM – Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

 

 

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Helen Bennett

RGN, RMN, SCM, MSc mewn Nyrsio, MSc mewn Cyfraith, Gradd Uwch Dip mewn Cwnsela  a JP

Ymddeolodd Helen yn 2013 wedi 40 mlynedd yn y GIG.  Roedd hi’n Gyfarwyddwr Nyrsio ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn dal swyddi nyrsio uwch o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am dros 17 mlynedd. Derbyniodd Helen y wobr cyflawniad oes gyntaf gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2013, wedi iddi gael ei henwebu gan ddefnyddwyr gwasanaeth a staff.

Roedd Helen yn gyfryngol wrth newid y gyfraith ym 1991 o ran cael cynrychiolaeth cyfreithiol am ddim ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ganddi brofiad o weithio gydag Ombwdsmon y GIG am ddwy flynedd a hanner fel y cynghorwr nyrsio proffesiynol mewnol ar gyfer iechyd meddwl, ac wedi gweithio fel cynghorwr proffesiynol ar gyfer y Comisiwn Ansawdd Gofal. Mae Helen yn arolygydd CHKS gydag arbenigedd ym mhob agwedd o lywodraethu, triniaethau iechyd meddwl a chaethiwed ac adferiad.  Mae wedi cynnal arolygon ar draws Ewrop.

Roedd Helen yn un o’r chwech aelod o’r panel o ar draws Y Deyrnas Unedig ar gyfer yr ymgyrch MIND UK, ‘Care in Crisis’ (2012).

Roedd Helen yn un o dri aelod y Panel Goruchwylio Annibynnol o ran yr Ymchwiliad yng Gogledd Cymru i gam-drin honedig pobl hŷn o fewn y GIG yn 2018.

Mae Helen yn gweithio fel  Ymgynghorydd proffesiynol i elusen a arweinir gan ei defnyddwyr – Adferiad, ac wedi datblygu ysbyty a arweinir gan ei defnyddwyr ar gyfer adsefydlu ac adferiad, yn adolygu gwasanaethau yn unol â’r arfer orau, ac ymchwiliadau a hyfforddiant.

Bu Helen yn aelod o bwyllgor NICE ar gyfer canllawiau adsefydlu ac adferiad iechyd meddwl newydd NICE a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020.

Mae Helen yn Is-lywydd i Gamian Europe (ar ran Adferiad) sy’n dylanwadu ar senedd a chymuned Ewrop ar eiriolaeth, a gofal iechyd meddwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth a arweinir gan y rhai sydd â phrofiad byw.

Mae Helen wedi gweithio gydag unigolion sydd â phrofiad byw i ddatblygu deunyddiau hyfforddi ar gyfer iechyd meddwl, yn cynnwys hunan-anafu ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad, ymwybyddiaeth iechyd meddwl, iechyd meddwl amenedigol a chefnogaeth cymheiriaid tra gydag Adferiad.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth

Cysylltwch â ni

I drafod eich anghenion mewn mwy o fanylder, cysylltwch â ni ar 01492 863000.