Teulu Môn / Cwnsela Tîm o Amgylch y Teulu

Sir:

Ynys Môn

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun – Dydd Gwener
9yb – 5yp
apwyntiadau nos ar-lein

Ffôn:

01492 523690

E-bost:

elin.owen@adferiad.org

Am y Prosiect

Ariennir brosiect cwnsela ‘Teulu Môn’ Adferiad gan Gyngor Sir Ynys Môn. Darparwn gefnogaeth iechyd meddwl lefel isel i ganolig i rieni ac aelodau’r teulu sy’n cael mynediad i’r Tîm o Amgylch y Teulu ar Ynys Môn. Hefyd, gellir gwneud atgyfeiriadau drwy ‘Dechrau’n Deg’ cyn belled â bod teuluoedd yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg. Cynigir gefnogaeth wyneb-yn-wyneb o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9yb-5yp oherwydd argaeledd lleoliadau, ond gellir trefnu apwyntiadau gyda’r nos dros y ffôn neu ar-lein os oes angen. Mae’r prosiect yn fuddiol i gynnig mynediad i ymyrraeth gynnar ar gyfer eu hanghenion penodol i rieni a theuluoedd sy’n gweithio gyda’r gwasanaethau hyn.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Darparwn gwnsela un-i-un i rieni ac aelodau’r teulu sy’n 18 oed ac uwch ac yn byw ar Ynys Môn. Cynigir y cwnsela i unigolion sy’n profi materion lefel isel i ganolig gyda’u hiechyd meddwl. Mae’r materion a gynhwysir yn cynnwys: iselder, gorbryder, a thrafferthion o fewn deinameg teulu. Nod y prosiect yw i ddarparu ymyrraethau cynnar, therapïau siarad, a strategaethau ymdopi, gyda’r nod o leihau’r risg o ddwysâd yn y dyfodol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae’r gwasanaeth yn ymdrechu i ddarparu cwnsela integredig o ansawdd uchel sydd wedi ei deilwra i anghenion unigol pob cleient. Yn gyffredinol, cynigir 6-12 sesiwn, gyda phwyslais trwm ar yr hyn mae cleient yn dymuno ei dderbyn o gael mynediad i’r gwasanaeth. Y gobaith yw, o ddarparu gofod cyfrinachol ac anfeirniadol, y bydd cleient yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, yn dod yn fwy hyderus, ac hefyd yn caffael strategaethau ymdopi ac arfau defnyddiol a ddarperir mewn sesiynau cefnogaeth y gallent eu hymgorffori i’w bywydau pob dydd.

Atgyfeiriad

Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un 18 oed ac uwch sy’n byw yn Ynys Môn. Cynigir ef drwy Teulu Môn / gweithwyr cefnogol Y Tîm o Amgylch y Teulu a Dechrau’n Deg. Wedi’r atgyfeiriad, cysylltir dros y ffôn i asesu os yw’r gwasanaeth yn briodol ar gyfer yr angen.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.