Mynychodd Elissa ein huned adsefydlu yng Ngogledd Cymru, Plas Parkland, yn dilyn brwydr 6 mlynedd gyda dibyniaeth ar gamblo, a ddechreuodd ar ôl iddi gychwyn gamblo ar-lein.
“Fe ddes i yma oherwydd daeth fy nibyniaeth ar gamblo yn ormod, ac fe gollais i bopeth.”
“Dechreuais gamblo pan ddarganfyddais gamblo ar-lein, a dyma lle dechreuais golli reolaeth mewn gwirionedd. Fe wnes i guddio fy nibyniaeth oddi wrth fy ngwraig am 6 mlynedd, ond yn pen draw daeth y cyfan allan. Erbyn hynny, doedd gen i unman i droi ac roeddwn i’n teimlo’n hunanladdol.”
“Doeddwn i ddim yn gwbod bod unrhyw beth i helpu pobl â phroblemau gamblo, a thrwy lwc, fe wnes i ddod o hyd i Adferiad.”
Gwnaeth Elissa gynnydd anhygoel trwy gydol ei thriniaeth ym Mhlad Parkland a’i grymusodd i ymatal rhad gamblo, a manteisiodd ar y darpariaeth cwnsela a’i helpodd i ailddarganfod ei hyder a’i hymdeimlad o hunanwerth.
“Roedd Adferiad yna i mi o’r dechrau i’r diwedd, trwy’r driniaeth, fe wnaethant ddarparu cwnsela i mi. Mae’n nhw wedi cynnig ôl-ofal, wedi fy helpu i ddod o hyd i rywle i fyw, mae’n nhw wedi fy helpu drwy dribiwnlys, unrhyw help yr oeddwn ei angen re roesant i mi.”
“Maen nhw wedi rhoi’r teimlad yma o hunan-werth i mi.”