News     09/06/2023

Wythnos y Gofalwyr: Vicky, gweithiwr Adferiad, yn trafod ei rôl fel gofalwr

Wythnos y Gofalwyr: Vicky, gweithiwr Adferiad, yn trafod ei rôl fel gofalwr

Gall bod yn ofalwr fod yn heriol mewn nifer o ffyrdd, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd yn gorfforol ac yn emosiynol.

Mae gofalwr yn unrhyw un sy’n edrych ar ôl aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddyliol neu gorfforol, gaethiwed, neu sydd angen cymorth ychwanegol. Gall effaith gofalu fod yn sylweddol ar bob agwedd o fywyd, o berthnasau a iechyd i gyllid a gwaith.

Gall gofalu fod yn anodd heb y wybodaeth a’r gefnogaeth gywir ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cydnabod y cyfraniad mae gofalwyr yn ei wneud i’w teuluoedd a’u cymunedau lleol, i’w gweithleoedd ac i gymdeithas, a’u bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

Mae Wythnos y Gofalwyr yn codi’r ymwybyddiaeth mewn gofalu, gan dynnu sylw at yr heriau mae gofalwyr di-dâl yn eu wynebu tra’n cydnabod y cyfraniad maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau. Mae hefyd yn helpu pobl sydd ddim yn gweld eu hunain fel bod â chyfrifoldebau gofalu i uniaethu fel gofalwyr ac i gael mynediad i’r gefnogaeth maent wir ei angen.

Siaradasom gyda Vicky, sy’n gweithio yn Adferiad, sydd hefyd yn gofalu am ei phartner.

(Cwestiwn 1) Allwch chi ddweud wrthym am eich rôl fel gofalwr?

Rwyf yn ofalwr di-dâl i fy mhartner sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Gall fy niwrnodau fod yn wahanol, gyda rhai da a rhai ddim mor dda, ond mae hyn yn dibynnu ar sut mae o. Gall fy niwrnod gynnwys gwneud yn siwr ei fod yn bwyta drwy baratoi prydau bwyd, rhoi’r meddyginiaeth gywir, a sicrhau fod ganddo gynllun ar gyfer y dydd sydd o’i flaen. Mae fy rôl hefyd yn ehangu i gynnwys ei gefnogi’n emosiynol ac i ddysgu am ffyrdd newydd i’w helpu gyda’i iechyd meddwl.

(Cwestiwn 2) Beth ydych chi’n weld fel yr heriau mwyaf fel gofalwr, yn enwedig cyfuno eich gwaith ac rôl gofalu di-dâl?

My mhrif her yw i gael llais mewn unrhyw apwyntiadau gyda meddygon teulu neu dimau iechyd meddwl. Gan mai fi yw ei bartner, golygai y caf ddarlun llawn ohono ef a’i ddiwrnod, ac weithiau gall y ffordd y mae ef yn rhoi hyn ar draws i weithiwr proffesiynol fod yn wahanol i’r ffordd y buaswn i’n gwneud hynny.

Mae gallu dychwelyd i waith wedi gwneud gwahaniaeth positif i mi ac i’n teulu. Mae’n rhoi strwythur i mi ac yn golygu fod mwy o drefn adref. Bu rhai anawsterau, ac mae fi yn gweithio yn ystod y dydd, yn trefnu gofal plant a’n rôl fel gofalwr i’m mhartner tra’n cynnal bywyd cartref sefydlog wedi bod yn heriol.

Mae’n ngwaith wedi bod yn wych gan roi’r gefnogaeth a’r hyblygrwydd rwyf eu hangen i gynnal yr holl elfennau gwahanol yma, ac mae wedi cael effaith bositif ar fy iechyd meddwl i, sy’n golygu y gallaf gefnogi eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

(Cwestiwn 3) Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw ofalwyr sy’n ei chael hi’n anodd gyda’u rôl a’u cyfrifoldebau?

Fy nghyngor i fyddai i siarad gyda pobl amdano. Dod o hyd i sefydliadau all eich cefnogi a’ch harwain, dod o hyd i grŵp lleol y gallwch ei fynychu i gael dipyn o gefnogaeth cyfoedion neu siarad gyda ffrindiau a theulu.

( Cwestiwn 4) Mae gofalwyr di-dâl angen gobaith a chefnogaeth ac mae’n rhaid iddynt fod yn ganolog i’r cynlluniau a’r penderfyniadau ar gyfer y dyfodol, pa newidiadau a hoffech chi eu gweld fyddai’n helpu gofalwyr fwy?

I adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac ar lawr gwlad i adnabod y rhai hynny sydd mewn rôl gofalwr ond ddim yn uniaethu fel ‘gofalwr/gofalwr di-dâl’. Roedd hyn yn her gefais i ar gychwyn unrhyw gefnogaeth ges i, oherwydd roeddwn i wastad o’r farn mai dim ond cefnogi fy mhartner gyda’i iechyd meddwl o’n i.

Credaf fod angen newid yr eirfa ddefnyddir i gynnwys mwy o bobl o bob oed a sefyllfaoedd teuluol. Mae’r gair ‘gofalwr’ yn swyddogol iawn, ac yn fy mhrofiad personol i, ni fuaswn i erioed wedi uniaethu gyda hyn ac ni fuaswn wedi mynd i grwpiau neu gefnogaeth wedi eu hanelu at hyn. Os byddai’r geiriad yn newid, megis ‘grŵp cefnogaeth ar gyfer rhai sy’n cefnogi rhywun gyda’u hiechyd meddwl’, byddwn wedi neidio am y cyfle’n syth!

(Cwestiwn 5) Sut mae gwasanaethau a chefnogaeth gan Adferiad wedi gallu eich helpu chi a pha wahaniaeth mae nhw wedi’i wneud?

Adferiad wnaeth y gwahaniaeth i mi. Rhoddasant y sgiliau i mi i gymryd rheolaeth i mi fy hun ac i newid cyfeiriad fy mywyd, gyda chlust i wrando a’r gefnogaeth roedd ei angen arnaf. O’r gefnogaeth honno, galluogodd fi i feddwl yn fwy eglur ac i roi pethau yn eu lle mewn ffordd na wyddwn sut i wneud cyn hynny, o’n nghyllid i’n llesiant meddyliol.

Yn Adferiad ymdrechwn i ddeall anghenion, amgylchiadau a hoffterau unigryw pob person. Mae ein ffocws ar ddarparu cefnogaeth a chymorth wedi’i deilwra sydd wedi ei ddylunio’n benodol i ddiwallu eu gofynion unigol. Trwy fabwysiadau’r ymagwedd yma, anelwn i rymuso unigolion a sicrhau fod ganddynt lais a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

I ddarganfod mwy am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar gyfer gofalwyr, ewch i: Ein Gwasanaethau – Adferiad Recovery Cymru/ os gwelwch yn dda.