News     30/05/2023

Cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed drwy’r argyfwng costau byw

Cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed drwy’r argyfwng costau byw

Gallasai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed gael eu temtio i deimlo anobaith wrth wynebu’r argyfwng costau byw – yn enwedig pan mae cymaint o leisiau sy’n golygu’n dda yn ail-adrodd yr un newyddion drwg ond ddim yn cynnig syniadau ymarferol am sut gall pobl wneud rhywbeth amdan y peth.

Y broblem yw fod llawer o bobl fregus yn cael eu rhwygo rhwng gofyn i’r llywodraeth i wneud mwy i helpu ar yr un llaw a cheisio gweithio allan beth i’w wneud drostynt eu hunain ar y llaw arall. Byddwn yn cynnig ymagwedd gynhwysfawr sy’n gwneud y ddau beth…

Yn gynharach y mis hwn, fe lansiodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Mae’n Amser i Gymryd y Llyw  – ymgyrch haf genedlaethol Adferiad i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed i weithredu ar yr argyfwng. Mae’r ymgyrch yn cynnwys digwyddiadau ym mhob un o siroedd Cymru, yn y Sioe Frenhinol Genedlaethol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â gweithgareddau ar-lein yn dathlu’r ymgyrch ac yn rhannu syniadau a gwybodaeth.

Felly ym mha ffordd ydym ni’n gwahodd pobl i weithredu? Dau beth:

  • Ymgyrchu i gael Llywodraethau y Deyrnas Unedig a Chymru, ac eraill i wella’r gefnogaeth ar gyfer pobl fregus
  • Cymryd rheolaeth o’u sefyllfa eu hunain trwy ddelio gyda phroblemau arian a dyled, costau ynni, siopa bwyd a heriau eraill

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? Beth am ddechrau gyda’r ymgyrchu…

Nid yw Llywodraeth yn rhywbeth unigol yng Nghymru: yn fras, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu ar lefelau’r budd-daliadau a ddarperir, trethu, a’r rheolau o amgylch y rhain; maent hefyd yn gyfrifol am gefnogi pobl i mewn i waith. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru, gydag awdurdodau lleol, yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth nad yw’n ariannol, gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sy’n agored i niwed sydd ymhlith y rhai a effeithir fwyaf gan yr ymgyrch. Rydym angen gweithredu gan y ddau ohonynt.

Gyda help gan ein cleientiaid, rydym wedi adnabod ac wedi cyhoeddi deg gweithred uchelgeisiol ond realistig i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, ac eraill, i’w cymryd. Mae’r rhain oll yn bethau fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn i unigolion a theuluoedd yn cynnwys ailgyflwyno’r taliad ychwanegol hanfodol i’r Credyd Cynhwysol ddaeth i ben wedi’r pandemig a sicrhau bod cynlluniau gofal a thriniaeth ar gyfer pobl gyda salwch meddwl yn cynnwys sut mae mynd i’r afael â phroblemau arian a dyled; am y rhestr lawn dilynwch y ddolen ar ddiwedd yr erthygl hon.

Mae’n ddyddiau cynnar ond rydym wedi cael un llwyddiant yn barod: gwnaethom ymuno gydag ymgyrch ledled y Deyrnas Unedig i ymestyn y Gwarant Pris Ynni gan gael canlyniad positif. Rydym yn obeithiol am gynnydd pellach yn ystod yr ymgyrch, ond rydym yn barod i ymgyrchu ar hyn am gryn amser i ddod, a byddwn yn bwrw ymlaen gyda’r amcanion hyn am flynyddoedd i ddod.

Ar ochr hunangymorth yr ymgyrch, rydym wedi cael cychwyn gwych gyda’n Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chyngor Ariannol gan ddarparu clinig ym mhob un o’n digwyddiadau, ac mae ein prosiect Cyfle Cymru hefyd yn helpu ein cleientiaid i gael ar yr ystol hyfforddiant a chyflogaeth er mwyn iddynt wneud eu ffordd eu hunain allan o dlodi.

Mae’r ymgyrch hwn yn ddibynnol ar gymryd yr ymagwedd gydweithredol. Golygai hyn fod ein rhanddeiliaid nid yn unig yn gweithio gyda’i gilydd, ond eu bod hefyd yn cydweithio gyda sefydliadau eraill yn cynnwys Carers Wales a’r St Giles Trust. Rydym hefyd yn hynod falch fod gennym gefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n mynychu ein digwyddiadau i drafod problemau pobl gyda budd-daliadau, hyfforddiant a chyflogaeth.

Ond, yn bennaf, rydym yn falch fod yr ymgyrch yn datblygu. Ym mhob sir yng Nghymru mae ein cleientiaid, ein staff a gwesteion yn dod at ei gilydd mewn gweithgareddau megis:

Ymchwilio opsiynau siopa fforddiadwy ar gyfer bwyd ac eitemau i’r cartref yn cynnwys gwirio prisiau, profi brandiau siopau eu hunain, a gwirio cynigion

  • Dysgu am opsiynau bwyd iach ond fforddiadwy
  • Profiadau ymarferol mewn paratoi a choginio bwyd – yn cynnwys cyllido a gwirio costau ynni coginio
  • Sefydlu clwb cinio, yn cynnwys cyllido a pharatoi bwyd
  • Profiad ymarferol gyda “campfa werdd” a chyfleoedd ymarfer corff eraill sydd am ddim neu’n rhesymol o ran cost
  • Ymchwilio opsiynau cynilo ynni ac inswleiddio
  • Ymchwilio a rhannu phrofiad am reoli arian a rheoli dyled
  • Datblygu rhwydweithio cydgefnogaeth ar gyfer rhai sy’n dibynnu ar fudd-daliadau
  • Datblygu cyfleoedd profiad gwaith

Bydd enghreifftiau o’r gweithgareddau hyn ac eraill hefyd yn cael eu harddangos yn ein digwyddiadau lleol ac rydym yn rhannu eu syniadau a’u profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol..

Ac, wrth gwrs, dydy hyn ddim am yr ochr ymarferol yn unig. Mae pobl sy’n ynysig ac agored i niwed yn gwneud ffrindiau newydd drwy’r ymgyrch a thrwy gefnogi ei gilydd..

A beth amdanoch chi? Beth am ddilyn a chefnogi’r ymgyrch a gwneud defnydd o’r cyngor a’r syniadau eich hun? Ac os ydych chi am helpu eraill, yna gallwch wneud gwahaniaeth mawr drwy helpu’r rhai o’ch cwmpas, boed hynny drwy gyfrannu i fanc bwyd neu drwy helpu unigolyn neu deulu rydych chi’n eu hadnabod..

Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr ymgyrch Mae’n Amser i Gymryd y Llyw yn https://adferiad.org/cym

Erthygl gan Donna Chaves, Cyfarwyddwr Effaith a Mewnwelediadau yn Adferiad, wedi ei chyhoeddi’n wreiddiol yn y Western Mail, ddydd Llun, 29 Mai, 2023.