News     16/03/2023

Mae Adferiad Recovery yn croesawu’r cyhoeddiad yng Nghyllideb y DU i gynyddu’r gefnogaeth i gyn-filwyr

Mae Adferiad Recovery yn croesawu’r cyhoeddiad yng Nghyllideb y DU i gynyddu’r gefnogaeth i gyn-filwyr

Mae Adferiad Recovery, elusen iechyd meddwl a defnydd sylweddau flaenllaw Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad yng Nghyllideb y Deyrnas Unedig i ddarparu dros £30 miliwn o gefnogaeth ychwanegol ar gyfer cyn-filwyr.

Dywedodd y Canghellor, Jeremy Hunt, y bydd Llywodraeth y Dernas Unedig yn darparu £33 miliwn ychwanegol dros y dair mlynedd nesaf i gynyddu’r gwasanaeth a ddarperir i gyn-filwyr, yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer y rhai hynny gydag anaf corfforol difrifol fel canlyniad i’w gwasanaeth, a chynyddu argaeledd tai ar gyfer cyn-filwyr.

Bydd £20m o’r pecyn cyllid yn cefnogi’r Veteran Capital Housing Fund – prosiect fydd yn darparu cartrefi ychwanegol ar gyfer cyn-filwyr trwy ddatblygiad adeiladu tai newydd ac adnewyddu cartrefi cymdeithasol ac elusennol ar gyfer cyn-filwyr.

Bydd cronfa The Veterans Mobility Fund hefyd yn cael ei ehangu o £3m i ddarparu cefnogaeth barhaol ar gyfer cyn-filwyr sydd ag anafiadau corfforol difrifol fel canlyniad i’w gwasanaeth.

Bydd y £10m arall yn mynd i’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr i gynyddu’r gwasanaeth a’r ymgysylltiad a ddarperir i gyn-filwyr dros y ddwy flynedd nesaf.

Ers ei lansiad yn 2014, mae rhaglen ‘Newid Cam’ Adferiad wedi helpu mwy na 3,000 o gyn-filwyr ac aelodau o’u teuluoedd, gan eu galluogi i gael mynediad i wasanaethau cefnogaeth hanfodol ac i helpu i fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â straen a iechyd meddwl difrifol.

Dywedodd Laura Morgan, Cyfarwyddwr Cyswllt yn Adferiad, sy’n arwain ar wasanaethau i gyn-filwyr: “Rydym yn llwyr gefnogi cynyddu gallu’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr. Drwy ein rhaglen‘Change Step’ rydym yn darparu cymorth pwrpasol i helpu i fynd i’r afael â’r straen difrifol y mae cyn-filwyr a’u teuluoedd yn ei wynebu.

Mae ein tîm o fentoriaid cymheiriaid yn defnyddio eu profiadau eu hunain i helpu eu cyd cyn-filwyr a’u hanwyliaid i wynebu’r heriau bywyd sylweddol ac i gychwyn ar eu llwybrau i adferiad.”