Mae adrodd ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn golygu gwneud cyfrifiadau sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog menywod o gymharu ag enillion cyfartalog gwrywod. Nid yw’r cyfrifiad hwn yn seiliedig ar gyflogau tebyg wrth gymharu rolau. Mae’r data ar gyfer Adferiad Recovery fel a ganlyn:
Y Bwlch Cyflog Cymedrig Rhwng y Rhywiau – 0.4%
Y Bwlch Cyflog Canolrifol Rhwng y Rhywiau – -7%
Cyfran y benywod a’r gwrywod ym mhob braced chwartel:
Chwartel isaf – 79% benywaidd a 21% gwrywaidd
Chwartel canol isaf – 64% benywaidd a 36% gwrywaidd
Chwartel canol uchaf – 72% benywaidd a 28% gwrywaidd
Chwartel uchaf – 74% benywaidd a 26% gwrywaidd
Nid yw Adferiad Recovery yn gwahaniaethu ar sail rhyw, ac mae’n cydymffurfio’n llawn gyda Deddf Cydraddoldeb 2010. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddor o gydraddoldeb rhywiol. I’n helpu i gyflawni hyn, defnyddiwn system gwerthuso swydd i asesu gwerth cymharol pob rôl ar draws y sefydliad. Gosodir y swyddi wedyn ar raddfeydd cyflog sydd wedi’u gosod ymlaen llaw. Mae hyn yn sicrhau bod ein holl gyflogai yn cael eu talu yr un fath am rolau cymharol, beth bynnag yw eu rhyw.
Rydym yn penodi pobl i rolau yn seiliedig ar deilyngdod, beth bynnag yw eu hoedran, eu hil, eu rhyw, eu statws priodasol, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hanabledd, eu crefydd neu gred. Ond, rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cyflogai yn adlewyrchu cyfansoddiad y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
Byddwn yn agored ac yn dryloyw gyda’n staff o ran ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac yn parhau i wella ein harfer.
Alun Thomas, Prif Weithredwr