News     16/01/2023

Blwyddyn Newydd Dda gan Jo!

Blwyddyn Newydd Dda gan Jo!

Dim ond neges fer i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Galwais draw at fy nghyfeillion yn Adferiad Recovery bythefnos yn ôl, i wneud fideo am ein syniadau ar gyfer deddfwriaeth iechyd meddwl newydd: byddwn yn gosod dolen iddo yn ein cyfryngau cymdeithasol maes o law (a does dim angen tanysgrifiad i Netflix!).

Roedd gennyf ddiddordeb hefyd mewn clywed am ymgyrch 2023 Adferiad Recovery ar yr argyfwng costau byw i’w lansio yn y gwanwyn: byddaf yn sicr o ymuno a gobeithio y byddwch chwithau hefyd. Mae’r ymgyrch yn dal yn y cam cynllunio ond roeddwn yn falch o ddarganfod y byddant yn cymryd ymagwedd ymarferol a phositif iawn yn hytrach na siarad am yr ochr dywyll yn unig. Does dim prinder o straeon arswydus am y broblem yma, ond beth sydd ei angen yw gwybodaeth fanwl gywir, cyngor cadarn a chydgefnogaeth fydd yn helpu pobl i oroesi’r misoedd nesaf yn ddiogel ac yn iach – ac heb fynd i banig neu roi fyny ar eu llwybr i adferiad ac i well bywyd.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn rhoi pwysau ar lywodraethau y Deyrnas Unedig a Chymru i weithredu i gefnogi ein grŵp cleientiaid: gallwch weld mwy am hyn yn yr erthygl ddiweddar yn y Western Mail gan Alun Thomas, y Prif Weithredwr.

 

Yn y cyfamser, os yw pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gaethiwed – neu eu teuluoedd neu ofalwyr – yn poeni am hyn, does dim angen i chi ddisgwyl nes bydd yr ymgyrch yn cychwyn. Cysylltwch â’ch gwasanaeth Adferiad Recovery wnaiff eich helpu (neu eich cyfeirio at rhywun all eich helpu), ac am wybodaeth benodol ar faterion ariannol, gallwch hefyd fynd yn uniongyrchol at ein Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian.

 

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl a gafodd ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am dros 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; gyda pheth o’r driniaeth honno yn hynod annymunol ac hyd yn oed yn frawychus. Mae Jo yn ymgyrchu dros Ddeddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif – Deddf sy’n rhoi gwell chwarae teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.