News     30/11/2022

Cylch Ofn

Cylch Ofn

Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar y Ddeddf Iechyd Meddwl ers blynyddoedd maith, ac un peth sydd ddim i weld yn newid yw profiad pobl ddu sydd â phroblemau iechyd meddwl…

Gadewch i mi fynd â chi yn ôl 20 mlynedd i gyhoeddiad Breaking the Circles of Fear gan beth oedd yn cael ei adnabod ar y pryd yn ôl yr enw The Sainsbury Centre for Mental Health. Roedd yr adroddiad synhwyrol yma yn gosod allan y syniadau ar gyfer sut i dorri’r “Cylch Ofn” sy’n disgrifio sut mae pobl ddu – yn enwedig dynion du – yn cael eu gorgynrychioli’n ddychrynllyd yn yr ystadegau am y rhai sy’n destun gorfodaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ond eto maent yn cael eu tangynrychioli ymhlith y rhai hynny sy’n ceisio am gymorth gan wasanaethau iechyd meddwl cymunedol.

Mae’r rhesymau am hyn yn gymhleth ond, yn syml, mae’n mynd rhywbeth fel hyn: mae amharodrwydd pobl ddu i geisio am gymorth oherwydd y gwahaniaethu hanesyddol (ac weithiau presennol) gan wasanaethau iechyd meddwl; y canlyniad yw fod eu salwch yn gwaethygu oherwydd nad oes unrhyw driniaeth neu gymorth yn ei le, ac i lawer y cyswllt cyntaf maent yn ei gael gyda’r gwasanaethau yw pan mae gorfodaeth yn cael ei ddefnyddio – ac nid yw’n syndod fod hyn yn atgyfnerthu’r ofn, ac felly mae’r Cylch Ofn yn parhau.

Gwaetha’r modd, mae’n ymddangos bod hanes wedi sefyll yn stond, oherwydd mae’r Cylch Ofn yn dal i fodoli. Sut all hyn fod pan mae pawb wedi cael y neges flynyddoedd yn ôl ac, i fod yn deg, mae llawer o gefnogaeth o blaid newid? Sut allwn ni dorri’r cylch yma hefyd – y cylch o fwriadau da sy’n cael ei ddilyn gan fethiant a dychwelyd yn ôl i’r cychwyn?

Wel, dydi’r ateb ddim gen i, ond credaf fy mod yn gwybod am rhywun sydd â’r ateb…

Yn fy nhystiolaeth i ddrafft y Bil Iechyd Meddwl newydd, cynigiais fod y bobl yn gofyn i’r rhai hynny a effeithir yn uniongyrchol – pobl ddu sydd wedi cael eu cadw o dan y Ddeddf. Nid yw hwn yn nifer fawr o bobl yng Nghymru (sy’n adlewyrchiad o’r boblogaeth yng Nghymru, ond mae’n dal i fod yn anghymesur, yn unol â’r esboniad uchod). Byddai’n syml i siarad gyda phob un o’r rhai a effeithir sydd yn fodlon siarad – mae rhai dwsinau wedi cael eu cadw yn y blynyddoedd diwethaf. ‘Dwi ddim yn golygu gyrru ffurflen iddynt i’w llenwi – rwy’n golygu gofyn iddynt os ydynt hwy a’u teuluoedd yn barod i eistedd i lawr ac i drafod eu profiad.

 

Gallasai siarad yn barchus gyda’r gwir arbenigwyr hyn ein goleuo ni i gyd ynghylch y rhai hynny â’r problemau mwyaf difrifol ac arwain y ffordd tuag at wella profiad ehangach pobl ddu yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym i gyd yn gwybod fod y mater hwn am fwy na’r Ddeddf Iechyd Meddwl, ond mae’r cleifion a’r teuluoedd hyn wedi ei weld i gyd ac mae’n amser i glywed eu stori a’u syniadau hwy i dorri’r cylch.

Yn seiliedig ar y ddeialog honno, efallai, o’r diwedd, y gwnawn:

  • Ddatblygu model gwasanaeth newydd ar gyfer pobl ddu sy’n adlewyrchu eu cymuned o ran staffio, rheolaeth, a diwylliant.
  • Drawsnewid profiad cleifion du gyda chefnogaeth sy’n seiliedig ar adferiad yn hytrach na gorfodaeth arferol.

Ond, os gwelwch yn dda, siaradwch gyda’r arbenigwyr yn gyntaf!

 

 

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl a gafodd ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am dros 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; gyda pheth o’r driniaeth honno yn hynod annymunol ac hyd yn oed yn frawychus. Mae Jo yn ymgyrchu dros Ddeddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif – Deddf sy’n rhoi gwell chwarae teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.