Llongyfarchiadau mawr i’r tîm Dyfodol ffantastig sydd wedi cael y ‘Gwobr am Newid Bywydau’, sydd wedi’i enwebu gan garcharwyr yn HMP Caerdydd.
Ar yr 8fed o Ragfyr cafodd seremoni wobrwyo ei gynnal yn HMP Caerdydd lle cafodd staff eu cydnabod am eu holl waith caled yn ystod y flwyddyn. Enwebwyd y gwobrau yma gan garcharwyr yn HMP Caerdydd i ddangos eu gwerthfawrogiad ar gyfer y staff sydd wedi’u cefnogi nhw neu wedi helpu nhw mewn unrhyw ffordd yn ystod 2021.
Cafodd y ‘Wobr am Newid Bywydau’ ei roi’n falch i’r tîm Dyfodol o Deb, Kayleigh, Beth, Tony a Dan.
Dywedodd un unigolyn am waith gwych y tîm: “Aeth y bobl yma uwchlaw a thu hwnt eu swyddi a chefnogasant nhw â fi mewn cymaint o ffyrdd. Fyswn i angen llyfr nodiadau A4 cyfan i fanylu nhw i gyd.
“Wnaethon nhw ddim helpu fi trwy’r rhaglen grŵp SMART yn unig ond hefyd gyda mynd i’r afael â fy iechyd meddwl.”
Pan ofynnwyd sut ddaru’r tîm gwneud iddyn nhw deimlo, atebent: “Fel fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi, werth yr ymdrech, yn cael fy annog a fy ysgogi. Wnaethon nhw helpu fi sylwi fy mod i hefo’r nerth i goncro fy nibyniaethau a goresgyn unrhyw rwystrau a ddaw fy ffordd yn y dyfodol.”
Da iawn i bawb yn dîm Dyfodol am fynd y filltir ychwanegol o hyd gydag i gyd o’u cleientiaid.
Mae Dyfodol yn wasanaeth camddefnyddio sylweddau carchar, ar waith ers 2016, yn cael ei redeg gan wasanaethau partner sydd wedi’i arwain gan G4S, gydag Adferiad Recovery a Kaleidoscope. Am fwy o wybodaeth, gwelwch yma.