News     14/12/2021

Adferiad Recovery yn rhan o bartneriaeth newydd i ddarparu gwasanaeth Housing First

Mae Adferiad Recovery yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen y Bont ar Ogwr er mwyn darparu system cymorth tai arbenigol i bobl sydd  â hanes o brofi digartrefedd  yn y sir dro ar ôl tro.

Mae Tai yn Gyntaf, a gafodd ei gyflwyno i’r fwrdeistref sirol yn wreiddiol yn 2019, yn ddull unigryw gyda’r nod o helpu i fynd i’r afael â digartrefedd drwy gefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth a lluosog i ddod o hyd i gartrefi sefydlog.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi unigolion digartref i sicrhau llety addas cyn gynted â phosibl, ac yna’n cynnig cymorth cyffredinol arbenigol i’w helpu i gael y cyfle gorau o gynnal y denantiaeth honno ac osgoi dod yn ddigartref eto. Disgwylir i’r gwasanaeth gefnogi a darparu ar gyfer 10-15 unigolyn y flwyddyn.

Mae’r cymorth dwys a chydlynol yn amrywio yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn, a all gynnwys dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, problemau corfforol ac iechyd meddwl.

Bydd cytundeb tair blynedd rhwng yr awdurdod lleol ac Adferiad Recovery yn dechrau ar 1 Ionawr 2022, yn disodli’r gwasanaeth Tai yn Gyntaf presennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd ar fin dod i ben ar ddiwedd 2021, a bydd yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai’r cyngor.

Dywedodd Cyfarwyddwr Adferiad Recovery Dirctor Lisa Williams: “Rydym wrth ein bodd yn medru darparu’r prosiect Housing First cyntaf a sicrhau bod y gwasanaeth ffantastig hwn yn parhau i weithio gyda rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned.

“Ein nod yw ceisio sicrhau canlyniadau tai hirdymor, cynaliadwy  i’r sawl sydd yn cysgu ar y strydoedd ac sydd wedi wynebu sawl anfantais ac yn meddu ar anghenion cymorth cyd-ddibynnol ac rydym yn disgwyl ymlaen at ddechrau yn 2022.

“Rydym am weld Cymru lle nad oes neb yn ddigartref ac mae pawb yn meddu ar gartref diogel, lle y maent yn medru ffynnu a byw bywyd llawn, actif.”

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol: “Mae’r gwasanaeth arbenigol hwn yn allweddol i’n hymrwymiad i fynd i’r afael â digartrefedd ledled y fwrdeistref sirol.

“Ers y dechrau, rydym wedi profi llwyddiannau sylweddol, gyda nifer o bobl a oedd wedi bod yn cysgu ar y stryd neu’n methu â chynnal llety yn flaenorol, bellach yn cynnal eu tenantiaeth eu hunain.

“Wrth barhau i gynnig y gwasanaeth Tai yn Gyntaf, rydym yn medru cefnogi rhai o’n trigolion mwyaf bregus pan maent fwyaf mewn angen.”