Croeso i rifyn mis yma o Gylchlythyr Adferiad Recovery!
Mae wedi bod ychydig wythnosau prysur i ni yn Adferiad Recovery gan ein bod wedi bod yn cadarnhau strwythur newydd ar gyfer ein Tîm Gweithredol. Rydym yn falch ein bod ni, fel rhan o’r ailstrwythuro, wedi gallu croesawu rhai wynebau newydd i deulu Adferiad Recovery ac wedi gallu darparu cyfleoedd newydd cyffrous i rai o’n haelodau staff hir-sefydlog. Rydym yn hyderus bydd y strwythur newydd yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau i redeg yn esmwyth er budd y rhai sydd eu hangen mwyaf.
Wrth i ni symud i mewn i Ragfyr mae’n amser i edrych ymlaen at gyfnod y gwŷl. Ond, mae’n bwysig i gofio bod amser yma o’r flwyddyn hefyd yn gallu peri heriau ychwanegol i’r rhai sy’n profi problemau iechyd meddwl a/neu faterion camddefnyddio sylweddau. Mae’r pwysau o ddarparu’r Nadolig perffaith ar gyfer eich teulu ac anwyliaid yn aml yn gallu achosi straen ddiangen sy’n gallu dylanwadu’n negyddol ar ein hiechyd meddwl. Mae’r amser yma o’r flwyddyn hefyd yn dod â thuedd i fynd dros ben llestri pan mae’n dod i alcohol, sy’n gallu bod yn anodd i’r rhai mewn adferiad.
Paid ag anghofio bod cymorth gan Adferiad Recovery yno o hyd, ac os ydych chi neu rywun rydych yn nabod yn ei chael hi’n anodd amser yma o’r flwyddyn, cael mewn cyswllt gyda ni er mwyn darganfod sut gallwn ni helpu chi.
Alun Thomas
Prif Weithredwr, Adferiad Recovery
Lawrlwythwch y cylchlythyr yma.