News     07/04/2021

Adferiad Recovery: Cyfnod newydd wrth ddarparu gwasanaethau adfer ledled Cymru

Adferiad Recovery: Cyfnod newydd wrth ddarparu gwasanaethau adfer ledled Cymru

Daeth pedair elusen yng Nghymru ynghyd i uno ar 1af Ebrill 2021 er mwyn creu Adferiad Recovery, sef mudiad newydd a fydd yn darparu cymorth i bobl fregus yng Nghymru a’u teuluoedd a gofalwyr. Bydd Adferiad Recovery yn ffocysu’n benodol ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau’n camddefnyddio sylweddau a’r rhai hynny sydd ag anghenion cymhleth ac sy’n cyd-ddigwydd.

Y tair elusen sydd yn uno yw:

  • Adferiad Recovery, a leolir yn Ne Cymru, sydd yn darparu gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd a materion cysylltiedig
  • CAIS, elusen sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru, ac yn darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, cyflogaeth, iechyd meddwl a gwasanaethau i gyn-filwyr ar draws Cymru.
  • Hafal, elusen sydd wedi ei lleoli yn Ne Cymru, yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl, gofalwyr a grwpiau bregus eraill ar draws Cymru.
  • WCADA, elusen sydd wedi ei lleoli yn Ne Cymru, yn darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont a’r Carchardai Cyhoeddus yn Abertawe Caerdydd, Brynbuga a Phrescoed.

Mae CAIS, Hafal a’r WCADA wedi gweithio gyda’i gilydd yn ddiweddar i ffurfio Adferiad Recovery fel elusen newydd. Mae hyn wedi caniatáu i’r elusennau i weithio gyda’i gilydd yn fwy agos ac maent nawr yn uno gyda’i gilydd fel rhan o’r elusen sengl newydd hon.

Mae Alun Thomas, cyn Brif Weithredwr Hafal, wedi ei apwyntio fel Prif Weithredwr yr elusen newydd. Bydd Karen Ozzati (WCADA CEO) yn parhau i weithio fel rhan o’r Uwch Dîm; bydd Clive Wolfendale (CAIS CEO) yn cychwyn rôl ar y Bwrdd newydd.

Mae’r tri Phrif Weithredwr wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd:

“Mae ein cleientiaid wedi dweud wrthym fod person sydd ag anghenion cymhleth yn haeddu cael ei drin fel person cyfan, nid casgliad o sawl diagnosis gwahanol sydd yn golygu bod angen cael eich atgyfeirio at fudiadau gwanhaol. Uno’r tair elusen yw ein hymateb iddynt hwy.

“Bydd y mudiad cyfun yn dwyn ynghyd yr ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd gan dimau ymroddedig sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth ym mywydau’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn gwasanaethu: drwy gyfuno ein harbenigedd, byddwn yn medru cefnogi cleientiaid sydd ag anghenion cymorth yn well drwy eu cefnogi i gynllunio a sicrhau adferiad.

“Mae pob un o’r tair elusen yn llwyddiannus ac nid oes yna gynllun i gwtogi gwasanaethau neu leihau’r nifer o  staff: yn wir, rydym am ehangu ein prosiectau cyfredol a datblygu gwasanaethau newydd mewn ymateb i’r hyn y mae cleientiaid, gofalwyr a theuluoedd ei angen wrthym.”

 

Mae modd lawrlwytho taflen Cwestiynau ac Atebion sy’n disgrifio’r cynlluniau yma

Os hoffech gael copi wedi’i argraffu, cysylltwch â info@adferiad.org.uk