Am y Prosiect
Mae Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Adferiad yn gweithio ochr yn ochr gyda’r gwasanaeth ymyrraeth gynnar ar gyfer seicosis y GIG yng Ngwent. Mae’r gwasanaeth wedi ei anelu tuag at y rhai hynny sydd wedi profi eu pwl cyntaf o seicosis ac yn anelu i helpu yr adferiad yn ystod camau cynnar seicosis, sgitsoffrenia a mathau eraill o symptomau ‘schizophreniform’. Mae’r gwasanaeth yn bwysig oherwydd, yn aml, gyda chyflyrau megis seicosis a sgitsoffrenia mae nifer o rwystrau mae rhai sydd wedi cael diagnosis yn eu hwynebu bob dydd. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau iechyd meddwl eraill megis iselder, gorbryder, dadreoleiddio emosiynol a llawer mwy. Yn ogystal â’r rhain, mae problemau ffisiolegol megis dirywiad mewn iechyd corfforol, rhoi pwysau ymlaen, a gostyngiad mewn ffitrwydd cardiofasgwlaidd hefyd yn heriau a wynebir.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae ein gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ac ymyrraethau ar gyfer y rhai hynny rhwng 16 a 35 oed sy’n profi pwl cyntaf o seicosis. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn byw ym mhob ardal ar draws Gwent.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Defnyddiwn ymagwedd therapiwtig a arweinir gan y cleient sy’n cynnwys ymweliadau un i un sydd wedi eu teilwra i anghenion personol ac amgylchiadol y claf yn hytrach na mabwysiadu yr un ymagwedd yn union i bawb. Mae ein gwasanaeth yn trin pob claf fel unigolyn gyda’r ymreolaeth a chyfforddusrwydd i ddewis sut maent am gael mynediad i’n gwasanaeth. Rhoddir cyngor gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl o fewn y tîm Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis ehangach, yn cynnwys ymgynghorwyr seiciatryddol, therapyddion galwedigaethol, arbenigwyr iechyd corfforol a nifer o seicolegwyr a nyrsys profiadol. Mae’r ymagwedd rydym yn ei defnyddio yn cynnwys gweithgareddau cymunedol ac, wedi i ni bartneru gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent, gallwn gynnig ystod eang o weithgareddau sy’n anelu i adeiladu hyder, hunan-werth, gorbryder a llesiant meddyliol cyffredinol ein cleifion.
Atgyfeirio
Y cleifion rydym yn eu gweld ac yn darparu cefnogaeth ar eu cyfer yw’r rhai hynny sy’n cael mynediad i’r gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn y GIG, ble mae’r cydlynwyr gofal ar gyfer yr unigolion hyn yn gweld ei fod yn addas i’w cleifion i ymgysylltu mewn ymyrraeth seicogymdeithasol. Mae atgyfeiriadau yn cael eu derbyn gan bawb gan gynnwys hunan-atgyfeiriadau ond mae opsiwn i e-bostio ABB.EISReferrals@wales.nhs.uk
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth ynghylch ein gwasanaeth neu’r broses atgyfeirio, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.