Hyb Addysg Gamblo Cymru

Sir:

Cenedlaethol National

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9am – 5pm

Am y prosiect

Ein nod yw lleihau’r niwed sydd yn dod o gamblo ymhlith plant a phobl ifanc ar draws Cymru drwy ymyrraeth gynnar ac ataliaeth.

Rydym yn ceisio gwneud hyn drwy amryw o ffyrdd ac mae’r rhain yn cynnwys:

Ystod o hyfforddiant ac ymyriadau sydd yn ymwneud gyda’r niwed a ddaw o gamblo. Mae’r pecynnau hyfforddi yma yn cael eu darparu i amryw o grwpiau gan gynnwys: athrawon, gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio yn y sector ieuenctid a rhieni a gofalwyr.

Rydym yn ceisio darparu perfformiad theatr ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ei ddatblygu gan bobl sydd â phrofiad o fyw gyda niwed sydd wedi ei achosi a chaethiwed i gamblo. Nod y perfformiad hwn yn arddangos sgil-effaith go iawn gamblo fel bod pobl ifanc yn medru uniaethu gyda hun a chodi ymwybyddiaeth o bethau.

Yn olaf, ein nod yw datblygu Hyb addysg gamblo ar-lein a fydd yn cynnig digwyddiadau hyfforddi ar-lein ac adnoddau. Mae erthyglau, ymchwil a vlogs ar gael am gamblo.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Pobl ifanc
Athrawon
Gweithwyr proffesiynol yn y sector ieuenctid
Rhieni a Gofalwyr

Adnoddau