Am y Prosiect
Yn Llety â Chefnogaeth Tŷ Northgate, rydym yn cefnogi preswylwyr sydd wedi gadael adsefydlu ac sydd angen cymorth i barhau i ddilyn eu cynlluniau adfer. Rydym hefyd yn cefnogi cleientiaid gyda defnydd sylweddau/alcohol yn y gymuned gyda’r nod o atal digartrefedd.
Rhaid i ddefnyddwyr gwasanaeth fod yn profi defnydd sylweddau cyfredol/hanesyddol. Rydym yn cefnogi gyda:-
- Atal digartrefedd.
- Cymorth i hawlio budd-daliadau.
- Cyllidebu a chymorth rheoli dyledion.
- Cymorth i ddarganfod am y gwasanaethau sydd yn yr ardal.
- Cyfeirio at asiantaethau cymorth perthnasol a chefnogi i fynychu apwyntiadau cychwynnol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae gan Brosiect Northgate ddwy elfen; Gwasanaeth Cymorth Arnofiol Dros Dro a Cymorth Dros Dro sy’n Gysylltiedig â Thai ar gyfer pobl sy’n byw yn Sir Benfro sydd wedi bod trwy raglen driniaeth ar gyfer eu defnydd o alcohol/sylweddau.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae Tŷ Northgate yn darparu llety â chymorth dros dro i breswylwyr sydd wedi bod trwy Raglen Triniaeth ar gyfer eu defnydd o alcohol/sylweddau. Anogir defnyddwyr gwasanaeth i fod yn rhan o weithgareddau cymdeithasol nodweddiadol e.e. coleg, hyfforddiant, hobïau, gwyliau, gwirfoddoli, lleoliadau gwaith. Anogir unigolion i gyrraedd eu nodau wrth baratoi ar gyfer byw’n annibynnol.
Mae’r cymorth arnofiol a ddarperir gan Adferiad yn galluogi pobl sy’n pryderu am eu defnydd o alcohol / sylweddau i gynnal eu tenantiaethau neu i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Atgyfeirio
Mae Tŷ Northgate ar gyfer trigolion Sir Benfro. I fod yn gymwys ar gyfer Llety â Chymorth Dros Dro Northgate; rhaid i’r person fod wedi cwblhau Rhaglen Driniaeth a bod yn ddi-gyffuriau/alcohol ac wedi ymrwymo i gynnal yr ymatal hwn. Bydd yr ymrwymiad yn cynnwys peidio â defnyddio unrhyw feddyginiaeth ragnodedig neu heb ei ragnodi. Rhaid i unigolion fod dros 18 oed, ac mae llety ar gyfer defnydd sengl. Mae’r llety a ddarperir yn dros dro a bydd angen i’r rhai sy’n dod i mewn fod yn ymrwymedig i gyflawni annibyniaeth o fewn uchafswm o ddwy flynedd.
Ar gyfer Cymorth Arnofiol, gwneir atgyfeiriadau drwy Lwybr Porth Grant Cymorth Tai yr Awdurdod Lleol (Cyngor Sir Penfro).
Dylid gwneud pob ymholiad ac atgyfeiriad at weithiwr cymdeithasol defnyddio sylweddau yn y gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol, Cyngor Sir Penfro, a fydd hefyd yn cynorthwyo unrhyw berson neu asiantaeth i wneud cais am le yn y cynllun.