Northgate House a Chymorth Fel Bo’r Angen

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9 a.m. – 5 p.m. 5 diwrnod yr wythnos gyda system ar alw ar gyfer oriau y tu hwnt i swyddfa .

Am y prosiect

Mae Llety â Chymorth Northgate House wedi ei selio yn Hwlffordd ac yn dŷ sengl sydd wedi ei rentu gan Adferiad Recovery o Gymdeithas Tai ATEB. Mae’r elfen cymorth fel bo’r angen yn cael ei ddarparu ar draws Sir Benfro.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai drwy gyfrwng Fframwaith Gwasanaeth Byw â Chymorth Cyngor Sir Benfro.

Mae Northgate House yn darparu Gwasanaeth Llety â Chymorth a Gwasanaeth Llety â Chymorth Fel Bo’r Angen ar gyfer Pobl sy’n Camddefnyddio Alcohol a/neu Sylweddau
Mae’r tŷ a rennir yn medru cynnwys lle i 4 person.

Mae Northgate House yn darparu Gwasanaeth Llety â Chymorth i bobl sydd wedi bod drwy raglen driniaeth ar gyfer camddefnyddio alcohol/sylweddau fel rhan o’u Rhaglen Llesiant a Chymorth a’r elfen sy’n ymwneud gyda Thai, ac maent yn cael eu hannog gan staff Adferiad staff i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol gyda ffrindiau a gyda’i gilydd e.e. coleg, hyfforddiant, diddordebau, gwyliau, gwirfoddoli, lleoliadau e.e. mae unigolion yn cael eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu hamcanion a’r potensial i fyw’n annibynnol.
Ethos y prosiect yw bod trigolion yn meddiannu ac yn ymfalchïo mewn amgylchedd cysurus yn y prosiect a’u bod yn gyfrifol am dasgau bob dydd ayyb. Bydd hyn yn eu caniatáu i ddysgu/datblygu sgiliau cymdeithasol a dyddiol.
Mae’r cymorth fel bo’r angen yn helpu pobl sydd yn pryderi am gamddefnyddio sylweddau ac angen help i gynnal eu tenantiaeth neu er mwyn byw yn ddiogel yn eu cartrefi o fewn Sir Fynwy.
Mae asesiadau yn cael eu cwblhau er mwyn adnabod anghenion, ac os ydynt yn cael eu derbyn gan y gwasanaeth, bydd cynllun cymorth yn cael ei greu a staff yn mynychu llety’r person yn gyson er mwyn cefnogi’r person i adeiladu eu sgiliau a chyflawni ei amcanion.
Mae cynlluniau cymorth yn medru cynnwys materion tenantiaeth, hawlio budd-daliadau, sicrhau incwm cyn uchel ag sydd yn bosib, rheoli dyledion, mynediad at wasanaethau eraill h.y. cymorth meddygol a chyfreithiol, mynediad at addysg, gwirfoddoli a chyflogaeth ac atgyfeirio at asiantaethau os oes angen newid eu camddefnyddio sylweddau.

Mae cymorth fel bo’r angen hefyd yn mynychu hostel digartref yr awdurdod lleol yn wythnosol er mwyn adeiladu perthynas gyda’r trigolion er mwyn caniatáu bod yna gymorth tenantiaeth yn cael ei roi pan fyddant yn symud ymlaen.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Northgate House, mae’r person wedi cwblhau rhaglen o driniaeth a heb ddefnyddio cyffuriau/alcohol ac wedi ymrwymo i barhau fel hyn. Mae’r ymroddiad yn cynnwys ymatal rhag defnyddio unrhyw fath o gyffuriau, boed yn rhai presgripsiwn ai peidio. Mae’r mathau o driniaeth yn cynnwys:
Adsefydlu Preswyl, dadwenwyno cymunedol/cleifion mewnol a rhaglen atal ail bwl o salwch. Rhaid bod yn 18 mlwydd oed a’n hŷn ac mae ar gyfer meddiannaeth sengl. Bydd y llety yn dros dro a bydd angen ymrwymo i sicrhau annibyniaeth o fewn dwy flynedd.
Atgyfeiriad;
Rhaid bod unrhyw ymholiadau neu atgyfeiriadau yn cael eu gwneud i weithiwr cymdeithasol camddefnyddio sylweddau neu’r gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol, Cyngor Sir Benfro, a fydd yn cynorthwyo’r person neu’r asiantaeth i wneud cais am le yn y cynllun.
Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hystyried gan banel sydd yn cynnwys rheolwr gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau ac iechyd Meddwl Cyngor Sir Benfro (cadeirydd), rheolwr tîm Cyffuriau ac Alcohol Cyngor Sir Benfro.

Adnoddau