Tŷ Hyrwyddwyr

Sir:

Wrecsam

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun-  Dydd Gwener

Ffôn:

01978 367030

E-bost:

info@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Tŷ Hyrwyddwyr yn hwb darpariaeth adferiad yn Wrecsam sy’n gweithio ochr yn ochr gyda darparwyr gwasanaeth eraill Adferiad. Mae ein gwasanaeth yn cynnig amgylchedd creadigol, gweithredol a chefnogol i bobl sydd wedi dioddef o
gaethiwed ac / neu iechyd meddwl. Mae’r prosiect yn darparu cymuned cydgefnogaeth i unrhyw un sy’n edrych tuag at ddyfodol heb gaethiwed ac i wella llesiant meddyliol. Mae’r adeilad hefyd yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cefnogaeth eraill Adferiad megis cwnsela, Cyfle Cymru, a Prison in Reach. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn gefnogaeth i bobl 18 oed a hŷn sydd wedi dioddef caethiwed ac / neu materion iechyd meddwl.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae Tŷ Hyrywddwyr yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau, grwpiau a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos i helpu i adeiladu cyfalaf adferiad ac i edrych tua’r dyfodol. Rydym hefyd yn cynnal grwpiau cydgefnogaeth; mae yna amserlen
ddigwyddiadau y gall pobl ei chaffael o Dŷ Hyrwyddwyr, a bydd hon yn cael ei diweddaru yn ôl yr angen.

Atgyfeirio

Rydym yn wasanaeth mynediad agored: nid oes angen unrhyw atgyfeiriad ac mae gweithgareddau’r grŵp ar gael i bawb os na nodir yn wahanol. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, yna cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.