Tŷ Hafal

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

8yb – 4yp
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

01437 764961

E-bost:

gloucesterterrace@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Tŷ Hafal yn dŷ pâr y mae Adferiad yn ei rentu gan Gymdeithas Tai Ateb yn Hwlffordd. Mae Tŷ Hafal yn darparu llety â chefnogaeth dros dro i unigolion sydd wedi profi salwch seiciatrig ac angen cefnogaeth i fyw’n annibynol, i’w helpu i integreiddio yn ôl i’r gymuned ac i arwain bywyd llawn a gweithgar. Ethos y prosiect yw i ddeiliaid gael perchnogaeth a balchder o greu awyrgylch cyfforddus yn y prosiect. Mae gan pob deiliad gyfrifoldeb o gwmpas y tŷ i helpu i’w galluogi i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau pob dydd ar gyfer byw’n annibynol yn y dyfodol. Mae’r tŷ a rennir yn darparu gofod ar gyfer pedwar deiliad.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’r prosiect yn darparu llety â chefnogaeth dros dro i unigolion sydd wedi profi salwch seiciatrig ac sydd, o bosibl, heb y sgiliau llawn sydd eu hangen arnynt i’w galluogi i fyw’n annibynol yn gymwys ac yn hyderus eto. Darparwn y gefnogaeth mae unigolion ei angen i integreiddio i’r gymuned ac i fyw bywyd llawn. Mae Tŷ Hafal yn darparu cefnogaeth saith diwrnod yr wythnos am wyth awr y dydd.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Anogir deiliaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol nodweddiadol gyda ffrindiau a gyda’i gilydd, megis coleg, hyfforddiant, hobïau, gwyliau, gwirfoddoli, lleoliadau gwaith a.y.y.b. Cefnogir ac anogir unigolion i baratoi ar gyfer ac i gyrraedd eu nodau a’u potensial wrth baratoi ar gyfer byw’n annibynol. Y nod yw i’r deiliaid fod â pherchnogaeth a balchder yn eu hamgylchedd, trwy gyfrifoldebau megis tasgau yn y cartref, i sicrhau fod ganddynt y sgiliau i gynnal cartref unwaith maent yn symud ymlaen.

Atgyfeirio

I fod yn gymwys i fyw yn Tŷ Hafal, mae angen bod o dan ofal y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gyda phrif angen o salwch meddwl difrifol ac angen cefnogaeth sy’n gysylltiedig â llety.

Mae’r broes atgyfeirio fel a ganlyn – cysylltu gyda Marie Balchin (Rheolwr Gwasanaeth Tai Sir Benfro) neu Michelle Miscisz (Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery) a fydd yn danfon ffurflen atgyfeirio sydd angen ei chwblhau a’i danfon nôl at y Rheolwr Gwasanaeth a/neu Rheolwr Cofrestredig, gyda Chynllun Gofal a Thriniaeth cyfredol ac Asesiad Risg.

Bydd panel Tai Adferiad Recovery yn asesu (gan gynnwys cwrdd ac asesu’r person sydd wedi ei atgyfeirio). Os cytunir i gynnig lle, bydd Rheolwr Gwasanaeth a/neu Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery yn cysylltu gyda chi a’ch Cydlynydd Gofal er mwyn trefnu dyddiad i symud i mewn.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.