Llety â Chymorth Tŷ Hafal

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

8 a.m. – 4 p.m. saith diwrnod yr wythnos

Am y prosiect

Mae Tŷ Hafal wedi ei leoli yn Hwlffordd ac yn dŷ pâr sydd wedi ei rentu gan Adferiad Recovery o Gymdeithas Tai ATEB.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai drwy gyfrwng Fframwaith Gwasanaeth Byw â Chymorth Sir Benfro.

Mae Tŷ Hafal yn darparu llety â chymorth i unigolion sydd wedi profi salwch seiciatryddol ac angen cymorth i integreiddio yn ôl i mewn i’r gymuned er mwyn eu caniatáu i fyw bywyd llawn a gweithgar. Bydd y tŷ a rennir ar gyfer pedwar person ac un tenant yn derbyn cymorth fel bo’r angen mewn fflat.

Mae Tŷ Hafal yn darparu llety cymorth fel bo’r angen i drigolion fel rhan o’u Rhaglen Adferiad a Chymorth Tai yn cael eu hannog gan staff Adferiad i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol gyda ffrindiau ac eraill e.e. coleg, hyfforddiant, gwyliau, gwirfoddoli, profiad gwaith ayyb. Mae unigolion yn cael eu cefnogi i baratoi a chyflawni eu hamcanion er mwyn paratoi i fyw’n annibynnol.
Ethos y prosiect yw bod trigolion yn cymryd meddiannaeth ac yn ymfalchïo yn creu awyrgylch cysurus yn y prosiect ac yn cymryd cyfrifoldebau gan gynnwys tasgau bob dydd ayyb. Mae hyn yn caniatáu unigolion i ddysgu/datblygu sgiliau cymdeithasol a phob dydd.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Er mwyn bod yn gymwys i fyw yn Tŷ Hafal, mae angen bod o dan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gyda phrif angen o afiechyd meddwl difrifol ac angen cymorth yn ymwneud gyda Thai.
Mae’r broes atgyfeirio fel a ganlyn – cysylltu gyda Marie Balchin (Rheolwr Gwasanaeth Tai Sir Benfro) neu Michelle Miscisz (Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery) a fydd yn danfon ffurflen atgyfeirio sydd angen ei chwblhau a’i danfon nôl at y Rheolwr Gwasanaeth a/neu Rheolwr Cofrestredig, gyda Chynllun Gofal a Thriniaeth cyfredol ac Asesiad Risg.  
Bydd panel Tai Adferiad Recovery yn asesu (gan gynnwys cwrdd ac asesu’r person sydd wedi ei atgyfeirio). 
Os cytunir i gynnig lle, bydd Rheolwr Gwasanaeth a/neu Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery yn cysylltu gyda chi a’ch Cydlynydd Gofal er mwyn trefnu dyddiad i symud i mewn.

Adnoddau