Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc Sorted Sir y Fflint

Sir:

Sir Fflint

Manylion cyswllt

Ffôn:

01352 703490

E-bost:

sorted@flintshire.gov.uk

Am y Prosiect

Mae Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc Sorted Sir y Fflint yn gweithio gydag unigolion hyd at 25 oed i leihau effaith niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a sylweddau ar bobl ifanc, eu teuluoedd a’r gymuned i’w galluogi i fyw bywydau iach sy’n rhydd o droseddu. Dim ond yn ardal Sir y Fflint y cynigir y gwasanaeth hwn ac mae’n wasanaeth partneriaeth rhwng Adferiad a Sorted Sir y Fflint.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae Sorted Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr, sy’n cynnwys anghenion cynhwysol, wedi eu targedu, ac arbenigol. Darperir waith ataliol o fewn ysgolion a’r gymuned yn ogystal â gwaith wedi ei dargedu ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd â risg uwch o ddefnyddio sylweddau. Gellir gweld y bobl ifanc mewn ystod o leoliadau, megis ysgolion, colegau, yn y cartref, neu mewn lleoliadau cymunedol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae Sorted Sir y Fflint yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i ddatblygu a ymyrraethau sydd wedi eu teilwra gyda’r nod o gyflawni nodau sy’n gysylltiedig â sylweddau. Mae tair ffrwd i’r gwasanaeth; yn gyntaf, gweithio gyda phobl ifanc yn holl ysgolion uwchradd Sir y Fflint i addysgu ac i godi ymwybyddiaeth o risgiau o ddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Yn ail, rydym yn gweithio gyda’r bobl ifanc hyn mewn ffordd sydd wedi ei dargedu fwy i ddarparu ymyrraeth wedi ei deilwra gyda’r nod o ddargyfeirio person ifanc o ymddygiad troseddol neu ddefnydd sylweddau. Yn drydydd, rydym yn cynnig gwasanaeth ar sail ar atgyfeiriad ar gyfer gwaith mwy dwys gyda phobl ifanc y mae eu defnydd o sylweddau yn cael effaith negyddol ar eu bywydau.

Proses Atgyfeirio

Gellir cyfeirio pobl ifanc rhwng 8 a 25 oed. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan bobl ifanc yn uniongyrchol yn ogystal â rhieni, ysgolion ac asiantaethau eraill. Ar yr amod bod y person ifanc yn byw yn Sir y Fflint, neu’n cael ei addysgu yn Sir y Fflint, gallwn dderbyn atgyfeiriad.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.