Teras Caerloyw

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr

Ffôn:

01437 763346

E-bost:

gloucesterterrace@adferiad.org

Am y Prosiect

Wedi ei leoli yn Hwlffordd yn Sir Benfro, mae Teras Caerloyw yn wasanaeth llety â chefnogaeth dros dro wedi ei ddylunio i ddiwallu anghenion rhai sy’n profi salwch meddwl difrifol, sydd ag anghenion cymhleth, neu sydd angen lefel uchel o ofal. Trwy ddefnyddio ein Rhaglen Adferiad, rydym yn hyrwyddo grymuso a hunan-reolaeth pob cleient. Rydym hefyd wedi ymrwymo i symud ymlaen ac i ddefnyddio ymagwedd person cyfan o fewn ein gwasanaeth.

Yn gyffredinol, rydym yn helpu preswylwyr i sefydlu cartref diogel yn y gymuned ac i fwyafu eu cyfle i fyw’n annibynnol. Anelwn i alluogi unigolion i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol i helpu i wella eu cyfleoedd i fyw ffordd o fyw annibynnol. Nod trosfwaol Teras Caerloyw yw i gefnogi unigolion i allu byw’n annibynnol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn unigolion sydd â salwch meddwl difrifol, anghenion cymhleth ac angen lefelau uchel o gefnogaeth 24 awr y dydd. Mae holl drigolion Teras Caerloyw wedi cael nifer o fynediadau fel cleifion mewnol cyn symud i mewn i’r gwasanaeth ac,
o ganlyniad, maent wedi colli’r rhan fwyaf o’r sgiliau bywyd bob dydd ac ymdopi sydd eu hangen i fyw’n annibynnol. Mae’r gwasanaeth, felly, yn anelu i gefnogi unigolion yn eu proses adferiad, er mwyn iddynt allu symud ymlaen ac, yn y man, yn gallu byw’n annibynnol yn y gymuned gydag ychydig neu ddim cefnogaeth.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Ein huchelgais yw i gefnogi unigolion i allu byw’n annibynnol. Mae ein staff ymroddedig yn darparu cyngor ar reoli arian a chyllido, cynnal perthnasau, cael mynediad i wasanaethau arbenigol eraill, cyfleusterau gofal a thriniaeth (megis GCAD), a
chefnogi unigolion i ddatblygu’r sgiliau bywyd sydd eu hangen i fod yn annibynnol. Gall hyn gynnwys coginio, glanhau, gwneud a mynychu apwyntiadau, a mynd i’r siopau.

Atgyfeirio

I fod yn gymwys i fyw yn Nheras Caerloyw, rhaid i chi fod o dan ofal y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gydag afiechyd meddwl difrifol fel prif angen.

Mae’r broses atgyfeirio fel a ganlyn:-

Cysylltwch gyda Marie Balchin (Rheolwr Gwasanaethau Tai Sir Fynwy) neu Michelle Miscisz (Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery ) a fydd yn danfon ffurflen atgyfeirio atoch ac mae angen ei llenwi a’i danfon nôl at Marie a Michelle gyda Chynllun Gofal a Thriniaeth ac Asesiad Risg cyfredol.

Bydd panel Tai Adferiad Recovery yn ei asesu (gan gynnwys cwrdd gyda’r unigolyn sydd yn cael ei atgyfeirio). Yn y cyfamser, rhaid i’ch Nyrs Seiciatryddol Gymunedol, Gweithiwr Cymdeithasol gwblhau pecyn cyllido sydd i’w gyflwyno i Banel Cyllido Cyngor Sir Benfro a Hywel Dda. Bydd y panel yn asesu a oes modd cytuno ar le i chi yn Gloucester Terrace.

Os y cytunir eich bod yn cael cynnig lle, bydd Rheolwr Gwasanaeth Adferiad Recovery / Rheolwr Cofrestredig yn cysylltu gyda chi a’ch Cydlynydd Gofal er mwyn trefnu cwrdd a threfnu dyddiad i symud i mewn.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.