Prosiect Llety â Chymorth Gloucester Terrace

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r Llety â Chymorth yn cael ei staffio 24 y dydd, gyda phatrymau shifft. Mae un aelod staff yn cysgu dros nos ac un aelod staff yn gweithio dros nos.  

Am y prosiect

Mae Gloucester Terrace yn cynnig Gofal yn y Cartref 24 awr, sef gwasanaeth Tai â Chymorth dros dro, sydd wedi ei ddylunio er mwyn diwallu anghenion y sawl sydd yn profi afiechyd meddwl difrifol, yn meddu ar anghenion cymhleth ac angen lefelau uchel o gymorth.

Mae’r broses adferiad yn cael ei rheoli gan ddefnyddio Rhaglen Adferiad; mae hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn hyrwyddo ymrymuso a hunan-reoli, ymroddiad i gynnydd a gweithredu dull ysgol gyfan. Mae’r cynllun yn cefnogi trigolion i sefydlu cartref diogel a sicr, yn datblygu sgiliau bywyd yn y gymuned ac yn manteisio ar y cyfle i fyw’n annibynnol.
Mae disgwyl y bydd y pobl yn symud drwy’r Prosiect fel ran o’u taith at annibyniaeth.

Mae Gloucester Terrace yn llety a rennir ar gyfer 6 person. Mae’r cymorth 24 awr yn cynnwys un aelod staff yn cysgu dros nos ac un aelod staff yn gweithio dros nos.  

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Er mwyn bod yn gymwys i fyw yn Gloucester Terrace, rhaid i chi fod o dan Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gydag afiechyd meddwl difrifol fel prif angen.
Mae’r broses atgyfeirio fel a ganlyn:-
Cysylltwch gyda Marie Balchin (Rheolwr Gwasanaethau Tai Sir Fynwy) neu Michelle Miscisz (Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery ) a fydd yn danfon ffurflen atgyfeirio atoch ac mae angen ei llenwi a’i danfon nôl at Marie a Michelle gyda Chynllun Gofal a Thriniaeth ac Asesiad Risg cyfredol.
 
Bydd panel Tai Adferiad Recovery yn ei asesu (gan gynnwys cwrdd gyda’r unigolyn sydd yn cael ei atgyfeirio). 
Yn y cyfamser, rhaid i’ch Nyrs Seiciatryddol Gymunedol, Gweithiwr Cymdeithasol gwblhau pecyn cyllido sydd i’w gyflwyno i Banel Cyllido Cyngor Sir Benfro a Hywel Dda. Bydd y panel yn asesu a oes modd cytuno ar le i chi yn Gloucester Terrace.

Os y cytunir eich bod yn cael cynnig lle, bydd Rheolwr Gwasanaeth Adferiad Recovery / Rheolwr Cofrestredig yn cysylltu gyda chi a’ch Cydlynydd Gofal er mwyn trefnu cwrdd a threfnu dyddiad i symud i mewn. 

Adnoddau