Tai Llanelli

Sir:

Sir Gaerfyrddin

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr

Am y Prosiect

Mae Tai Llanelli yn wasanaeth Gofal yn y Cartref, Llety Gyda Chefnogaeth Dros Dro sydd wedi ei ddylunio i ddiwallu anghenion y rhai hynny sy’n profi salwch meddwl difrifol, sydd ag anghenion cymhleth, ac angen lefelau canolig o gymorth. Cefnogir deiliaid i ddysgu’r sgiliau i’w galluogi i symud ymlaen yn hyderus i fyw’n annibynol. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys cynnal tenantiaeth, dysgu eu harwyddion atgwympo, caffael yr hyder i ofyn am gymorth ac i ddod o hyd i weithgareddau ystyrlon. Mae’r gwasanaeth hwn wedi ei leoli yn Dafen, Llanelli, taith fer ar y bws o’r dref.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn unigolion sy’n profi salwch meddwl difrifol; mae’n rhaid i brif angen yr atgyferiadau fod am iechyd meddwl difrifol, er, yn aml, fod gan yr atgyfeiriadau anghenion sy’n cyd-ddigwydd, yn cynnwys caethiwed i gyffuriau neu alcohol, ASD neu anabledd dysgu. Yn dibynnu ar yr anghenion, bydd gan pob deiliad Gynllun Cefnogaeth cynhwysfawr yn ei le fydd yn cael ei adolygu bob tri mis o leiaf.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Rheolir y broses adferiad trwy ddefnyddio deilliannau Cynlluniau Cefnogaeth Adferiad, yr Olwyn Llesiant a’r Grant Cefnogaeth Tai. Defnyddir y rhain i hyrwyddo grymuso a hunan-reolaeth, ymrwymiad i wneud cynnydd a defnyddio ymagwedd person cyfan. Mae’r cynllun yn cefnogi deiliaid i sefydlu cartref sefydlog a diogel, ac i ddatblygu sgiliau bywyd yn y gymuned i fwyafu eu cyfle i fyw’n annibynol. Rhagwelir y bydd pobl yn symud ymlaen drwy’r prosiect fel rhan o’r siwrnai tuag at annibyniaeth yn eu cartref eu hunain.

Atgyfeirio

I fod yn gymwys i fyw yn Nhai Llanelli, rhaid i chi fod o dan ofal y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gyda phrif angen o afiechyd meddwl difrifol.

Mae’r atgyfeiriad fel a ganlyn: –

Rhaid bod y Cydlynydd Gofal (Nyrs Seiciatryddol Gymunedol, Gweithiwr Cymdeithasol) yn cwblhau Asesiad Grant Cymorth Tai (er mwyn adnabod y person sydd angen y cymorth) a’n cwblhau ffurflen atgyfeirio, oll i’w cyflwyno i Dîm Grant Cymorth Tai Sir Gaerfyrddin Bydd y tîm yn asesu a’n penderfynu a yw’r unigolyn sydd wedi ei atgyfeirio i’w dderbyn gan Dai Llanelli.

Mae’r Cydlynydd Gofal yn medru cysylltu gyda Rheolwr Gwasanaeth Tai Llanelli er mwyn trafod y cynnig atgyfeirio. Bydd Panel Adferiad Tai Adferiad Recovery a Sir Gaerfyrddin yn asesu’r anghenion cymorth (gan gynnwys cyfarfod ac asesu’r unigolyn sydd wedi ei atgyfeirio). Bydd Tîm Llanelli Adferiad Recovery yn trefnu bod y person yn ymweld gyda’r llety â chymorth er mwyn gweld y prosiect.

Os oes penderfyniad i gefnogi’r unigolyn, bydd Rheolwr Gwasanaeth / Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery yn cysylltu gyda’ch Cydlynydd Gofal er mwyn trefnu dyddiad i symud mewn.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.