Prosiect Llety â Chymorth Tai Llanelli

Sir:

Sir Gâr

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r Llety â Chymorth yn cael ei staffio 24 awr y diwrnod, gyda phatrymau shifft. Mae staffio yn cynnwys aelod staff yn cysgu yno dros nos.

Am y prosiect

Mae Tai Llanelli yn wasanaeth Gofal yn y Cartref 24 awr, yn wasanaeth Llety â Chymorth dros dro, sydd wedi ei ddylunio er mwyn diwallu anghenion y sawl sydd yn profi afiechyd meddwl difrifol, yn meddu ar anghenion cymhleth ac angen lefelau canolig o gymorth.
Mae’r prosiect tai yn cael ei ddarparu mewn llety a rennir ar gyfer 6 oedolyn mewn dau dŷ sydd drws nesaf i’w gilydd. Mae un tŷ yn llety 4 person a’r llall yn lletya 2 berson. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ystafell fel bod staff yn medru cysgu yno dros nos.

Mae’r broses Adferiad yn cael ei rheoli gan ddefnyddio Rhaglen Adferiad, sef Adferiad Recovery; mae’n cael ei ddefnyddio er mwyn hyrwyddo ymrymuso a hunan-reoli, sef ymroddiad i ddatblygu a gweithredu dull person cyfan. Mae’r cynllun yn cefnogi trigolion i sefydlu cartref diogel sefydlog, datblygu sgiliau yn y gymuned a manteisio i’r eithaf ar y cyfle i fyw’n annibynnol.
Mae Gloucester Terrace yn llety a rennir am hyd at 6 person. 
Mae’r cymorth 24 awr hefyd yn cynnwys un staff yn cysgu yno dros nos ac un staff arall yn gweithio dros nos. 

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Er mwyn bod yn gymwys i fyw yn Nhai Llanelli, rhaid i chi fod o dan Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol gyda phrif angen o afiechyd meddwl difrifol.
Mae’r atgyfeiriad fel a ganlyn: –

Rhaid bod y Cydlynydd Gofal (Nyrs Seiciatryddol Gymunedol, Gweithiwr Cymdeithasol) yn cwblhau Asesiad Grant Cymorth Tai (er mwyn adnabod y person sydd angen y cymorth) a’n cwblhau ffurflen atgyfeirio, oll i’w cyflwyno i Dîm Grant Cymorth Tai Sir Gaerfyrddin Bydd y tîm yn asesu a’n penderfynu a yw’r unigolyn sydd wedi ei atgyfeirio i’w dderbyn gan Dai Llanelli.

Mae’r Cydlynydd Gofal yn medru cysylltu gyda Rheolwr Gwasanaeth Tai Llanelli er mwyn trafod y cynnig atgyfeirio.
Bydd Panel Adferiad Tai Adferiad Recovery a Sir Gaerfyrddin yn asesu’r anghenion cymorth (gan gynnwys cyfarfod ac asesu’r unigolyn sydd wedi ei atgyfeirio). Bydd Tîm Llanelli Adferiad Recovery yn trefnu bod y person yn ymweld gyda’r llety â chymorth er mwyn gweld y prosiect.

Os oes penderfyniad i gefnogi’r unigolyn, bydd Rheolwr Gwasanaeth / Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery yn cysylltu gyda’ch Cydlynydd Gofal er mwyn trefnu dyddiad i symud mewn.

Adnoddau