Seibiant Sir Benfro (Seibiannau i Ofalwyr Di-dâl) Prosiect Cymorth Cymunedol Iechyd Meddwl

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

  • Cymorth 1:1 Cymorth yn cael ei gynnig rhwng dydd Llun a dydd Gwener (9 a.m. – 5 p.m.)
  • Grŵp Menywod – dydd Iau 10 a.m. – 1 p.m.

Ffôn:

01834 844177

Email:

tri@adferiad.org

About the project

Mae Seibiant Sir Fynwy Adferiad Recovery (Seibiannau i Ofalwyr Di-dâl) yn cynnig cymorth lle bo’r angen i unigolion sydd yn profi heriau gyda’u hiechyd meddwl.
Mae’r cymorth yn cynnig seibiant byr i ofalwyr teulu neu ofalwyr di-dâl neu’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol.
Rydym yn cynnig:

  • Sesiynau Cymorth 1:1
  • Grwpiau Menywod (unwaith yr wythnos)

Mae sesiwn/sesiynau cymorth 1:1 gyda’r sawl sydd yn derbyn y gofal, yn rhoi seibiant i aelodau teulu neu ofalwyr di-dal o’u rôl gofalu. Mae’r cymorth 1:1 yn cael ei ddarparu i’r unigolyn er mwyn cefnogi’r person sydd yn derbyn y gofal i gwblhau tasgau beunyddiol, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd. Mae nod ychwanegol o gefnogi’r unigolyn i wella eu hiechyd meddwl, hyder, hunan-werth ac annibyniaeth.

Grŵp Menywod
Nod yw Grŵp Menywod yw darparu gofod diogel i’r sawl sydd yn mynychu er mwyn siarad am faterion sydd yn effeithio ar fenywod ac mae’n rhoi cyfle iddynt hwy ac yn rhoi cyfle am seibiant i’r gofalwyr sydd yn gofalu amdanynt.
Mae’r Grŵp Menywod yn cwrdd yn wythnosol ar ddydd Iau yng Nghanolfan Adnoddau Dinbych-y-pysgod.
Mae testunau ac amserlen y sesiynau yn cael eu cytuno gan y sawl sydd yn mynychu ac yn cynnwys:
Celf a Chrefft
Cerdded
Ioga a Myfyrdod
Coginio / Pobi
Cymorth gan gymheiriaid / Sesiynau trafod.

Eligibility / Referral Process

Mae’r unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio yn gorfod cael gofalwr penodol.
Atgfyeiradau
Cymorth 1:1– Mae modd gwneud atgyfeiriadau gan: –
Gofalwr Di-dâl.
Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
Gwasanaeth Cymorth a Gwybodaeth Gofalwyr Sir Benfro
Os ydych angen mwy o wybodaeth am Seibiant 1:1, yna cysylltwch gyda Swyddfa Adferiad– 01437 764639

Grŵp Menywod – Atgyfeiriadau

  • Aelod presennol o TRI sy’n derbyn gofal
  • Gwasanaethau Adferiad
  • Hunan-atgyfeiriad
  • Meddygon Teulu a’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
  • Gwasanaeth Cymorth a Gwybodaeth Gofalwyr Sir Benfro
  • Cymdeithas Ofal Sir Benfro
  • Eiriolaeth Gorllewin Cymru

Os ydych angen mwy o wybodaeth am y Grŵp Menywod, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Chanolfan Adnoddau Dinbych-y-pysgod
Ffôn: 01834 844177
E-bost: tri@adferiad.org

Adnoddau