Seibiant Sir Benfro

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Cymorth Un-i-Un: 9yb – 5yp Dydd Llun – Dydd Gwener
Grŵp Menywod – 10yb – 1yp Dydd Iau

Ffôn:

01437 764639

E-bost:

sophie.jones@adferiad,org

About the Project

Mae prosiect Seibiant Sir Benfro yn darparu gwasanaeth cefnogaeth lle bo’r angen ar draws Sir Benfro a Grŵp Merched ym Menter Adnoddau Dinbych-y-Pysgod (TRI). Darparwn gefnogaeth sy’n cynnig seibiant byr i aelodau teulu gofalwyr di-dâl, yn ogystal â’r rhai a effeithir gan salwch meddwl difrifol (y rhai y gofelir amdanynt). Rydym yn cynorthwyo cleientiaid i gymryd seibiant o’u rôl gofalu ac i gael y cyfle i gwblhau tasgau dyddiol, i gyfarfod pobl newydd, ac i ddysgu sgiliau newydd. Rydym hefyd yn helpu y rhai y gofelir amdanynt i gael mynediad i’w cymuned ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Darperir gefnogaeth un i un dros bum diwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), rhwng yr oriau 9yb a 5yp fel arfer (ond gall hyn fod yn hyblyg yn unol ag anghenion yr unigolyn).

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn gefnogaeth i ofalwyr di-dâl 18 oed ac uwch sy’n byw yn Sir Benfro, boed nhw’n aelod o’r teulu neu’n ffrind, yn ogystal ag i unigolion sy’n profi salwch meddwl difrifol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Deallwn fod gofalu am anwylyn yn gallu bod yn llethol ar adegau. Mae’r prosiect hwn wedi profi i fod yn fuddiol i ofalwyr di-dâl ac i’r unigolyn (y rhai y gofelir amdanynt) gan ei fod yn galluogi gofalwyr i gael amser ar gyfer eu hanghenion eu hunain. Yn y gwasanaeth, mae staff Adferiad yn cefnogi defnyddwyr ar sail un-i-un, yn dibynnu ar eu hangenion, dewis, dyheadau ac / neu nodau, yn amrywio o gyfeillio i helpu a grymuso’r unigolyn i fyw yn eu cymuned. Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth i alluogi’r rhai y gofelir amdanynt i adael eu cartref, i gael mynediad i’w cymuned, i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol neu gwblhau tasgau dyddiol megis siopa, talu biliau, neu dasgau sy’n helpu eu gofalwr. Nod y Grŵp Merched yw i ddarparu gofod diogel a derbyngar i’r rhai sy’n mynychu i siarad am faterion sy’n benodol i ferched ac yn rhoi’r cyfle am seibiant.

Referral

Mae’r llwybr atgyfeirio yn agored i’r rhai hynny sy’n byw yn Sir Benfro, trwy’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, yn uniongyrchol gan ofalwyr di-dâl, neu drwy Wasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Gofalwyr Sir Benfro (PCISS).

Os hoffech fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod, os gwelwch yn dda. Os hoffech fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.

Os ydych angen mwy o wybodaeth am y Grŵp Menywod, cysylltwch gyda Canolfan Adnoddau Dinbych-y-Pysgod ar  01834 844177 neu tri@adferiad.org