Am y Prosiect
Mae’r Rhaglen Gofalwyr Ifanc Mewn Ysgolion Gwent (RGIMY) yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i ysgolion.
Gall hefyd helpu ysgolion i adnabod gofalwyr ifanc a allai fod yn guddiedig. Mae’r RGIMY yn wasanaeth pwysig oherwydd ei fod yn arwain ysgolion drwy gefnogi eu gofalwyr ifanc drwy addysg a chyda’u llesiant emosiynol.
Mae’r RGIMY hefyd yn bwysig am ei fod yn helpu i ddangos i ofalwyr ifanc nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod eraill sy’n deall sut mae’n teimlo i fod yn ofalwr; mae hyn yn bwysig oherwydd y gall gofalwyr ifanc deimlo’n eithaf ynysig ac yn unig.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae‘r rhaglen yn cefnogi staff ysgol yn uniongyrchol yn hytrach na’r gofalwyr ifanc eu hunain. Gellir darparu’r gefnogaeth wyneb yn wyneb o fewn yr ysgol neu’n rhithiol ac wedi ei deilwra i anghenion pob ysgol a’r hyn sydd ei angen arnynt i gael eu harwain drwy’r rhaglen.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth gyda:
• Gwybodaeth, cyngor a chymorth o gwmpas y Rhaglen Gofalwyr Ifanc Mewn Ysgolion (RGIMY)
• Fideos gwasanaeth ysgol yn dangos beth yw gofalwr ifanc a rhai esiamplau o’r hyn y gallai
fod gofyn i ofalwr ifanc eu gwneud
• Hyfforddiant rhithiol neu wyneb yn wyneb i staff a llywodraethwyr ar adnabod gofalwyr ifanc
• Cymorth wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer yr RGIMY
• Darparu gwobrau am gwblhau camau o’r RGIMY
• Adeiladu portffolio’r ysgol iddynt a’i gyflwyno i’r panel o Ofalwyr Ifanc / Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr
Atgyfeirio
Nid oes unrhyw ofyniadau atgyfeirio ar gyfer y gwasanaeth hwn. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth,
cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod os gwelwch yn dda.