Cefnogaeth Allgymorth Iechyd Meddwl Cymunedol Sir Benfro

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

01437 764639

E-bost:

sophie.jones@adferiad,org

Am y Prosiect

Ariannir Gefnogaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Sir Benfro Adferiad gan Grant Cefnogaeth Tai Cyngor Sir Benfro. Mae’r prosiect yn darparu ar draws Sir Benfro, gyda chefnogaeth lle bo’r angen / allgymorth i unigolion sy’n profi salwch meddwl difrifol ac ag angenion sy’n ymwneud â thai. Mae’r prosiect hwn wedi profi i fod yn fuddiol i unigolion gan eu galluogi i fyw yn eu cartrefi ac yn agos i’w ffrindiau a theulu. Darperir y prosiect cefnogaeth hwn sy’n gysylltiedig â thai dros 5 diwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), rhwng 9yb a 5yp fel arfer (ond gall hyn fod yn hyblyg yn unol â’ch anghenion).

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Darparwn gefnogaeth i unigolion 18 mlwydd oed ac uwch ar draws Sir Benfro. Yr unigolion rydym ni’n eu cefnogi yw’r rhai hynny sy’n profi salwch meddwl difrifol sydd hefyd, neu o bosibl, mewn perygl o golli eu tenantiaeth, trwy alluogi unigolion i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu llety presennol neu mewn tenantiaeth newydd.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn ymagwedd gyfannol a pherson cyfan i’n gwasanaeth; dylunir a chytunir ar y gefnogaeth gyda’r unigolion gan adeiladu ar gryfderau, sgiliau bywyd, galluoedd, rhwydweithiau cymdeithasol, a dyheadau pob person. Darparwn ein gwasanaethau mewn modd sy’n helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd, sy’n cynnwys: cefnogaeth i reoli eu llety a chadw’n ddiogel; cymorth i wneud penderfyniadau ac i gymryd risgiau positif; cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan or gymuned leol; cefnogaeth i adnabod a chael mynediad i hyfforddiant ac addysg; arwyddbostio gyda chyllido a materion ariannol; a help gyda rheoli materion corfforol a iechyd meddwl.

Atgyfeirio

Byddwch, fel arfer, yn cael eich atgyfeirio i Gefnogaeth Tenantiaeth Allgymorth Adferiad gan Dîm Grant Cefnogaeth Tai Cyngor Sir Benfro.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, neu os hoffech fwy o fanylion, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 01437 763346.