Prosiect Grant Cymorth Tai Cymunedol Iechyd Meddwl Sir Benfro

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Oriau cymorth amrywiol sydd yn seiliedig ar anghenion unigol a rhwng dydd Llun a dydd Gwener 9-5

Am y prosiect

Mae prosiect Iechyd Meddwl Cymunedol Sir Benfro yn darparu cymorth fel bo’r angen i unigolion sydd yn profi heriau gyda’u hiechyd meddwl. Mae’r cymorth yma yn helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol o fewn eu cymunedau.
Mae’r prosiect wedi ei sefydlu ers blynyddoedd lawr ac yn meddu ar staff profiadol iawn, gyda mwy na 20 mlynedd o brofiad o weithio ag Adferiad (Hafal cyn hyn).
Mae cymorth cymunedol yn caniatáu unigolion i gael mynediad i’w cymunedau drwy eu cefnogi i ddatblygu sgiliau newydd fel eu bod yn medru byw yn fwy annibynnol.
Rydym yn cynnig cymorth yn seiliedig ar anghenion a dyheadau pobl. Mae hyn yn medru cynnwys cymorth gyda:

  • Caniatáu unigolion i gynnal eu tenantiaeth eu hunain gan leihau’r risg o ddigartrefedd.
  • Hyrwyddo ymgysylltu mewn gweithgareddau pwrpasol o fewn y gymuned leol, gweithgareddau cymdeithasol a’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi ac addysg.
  • Ymrymuso unigolion i ofyn am gymorth a help i atal ail bwl o salwch.

Mae cymorth cymunedol yn caniatáu unigolion i gael mynediad i’w cymunedau drwy ddatblygu sgiliau newydd fel eu bod yn medru byw’n annibynnol.
Mae’r holl gymorth sydd yn cael ei ddarparu o fewn canllawiau llym y Grant Cymorth Tai sydd yn seiliedig ar anghenion tai’r unigolyn.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Rydym yn cynnig y cymorth cymunedol hwn mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Benfro. Mae modd i chi gael mynediad at Gymorth Cymunedol sydd yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Benfro. Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio at Dîm Grant Cymorth Tai Sir Benfro. Mae’r unigolyn wedyn yn derbyn cymorth gan fudiadau ar Fframwaith y Cyngor.
Os mai Adferiad Recovery yw’r darparwr a ffefrir, byddwn yn cysylltu gyda’r unigolyn er mwyn trefnu ymweliad, cynllunio sut i ddiwallu eu hanghenion a chytuno ar ddyddiad i ddechrau darparu’r cymorth.

Adnoddau