Prison link in Reach Service

Sir:

Wrecsam

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar draws y 6 sir o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Am y prosiect

Mae’r Prosiect ‘Prison In Reach’ yn bodoli er mwyn cefnogi unigolion sydd yn gadael y Carchar. Roedd Ionawr 23 – Ionawr 24 yn Beilot a’r cylch gorchwyl yw unrhyw garcharor sydd yn ymgartrefu yng Ngogledd Cymru o Garchar Ei Fawrhydi yn y Berwyn (Dynion) a Charchar Ei Fawrhydi Styal (Menywod), yn medru defnyddio’r gwasanaeth pan eu bod yn gadael y Carchar. Bydd y flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar Gyffuriau tra mewn Adferiad. At hyn, bydd y Prosiect yn cynnwys Rhaglen o Wirfoddolwyr Cysylltwyr yn y Gymuned a fydd yn ymgymryd â’r gwaith critigol ac yn cefnogi’r sawl sydd yn gadael y carchar wrth iddynt symud yn ôl i mewn i’r gymuned. Bydd y rhai sydd yn fwyaf bregus yn cael eu cefnogi gan Gysylltydd Cymunedol am 72 awr ar ôl gadael y Carchar (9-5) ac yna yn eu cefnogi’n fwy ‘rhydd’ wedi hyn. Ni fydd y Cysylltwyr yn y Gymuned yn gweld unrhyw un arall yn ystod y cyfnod hwn.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Nid oes yna broses atgyfeirio gennym eto gan nad ydym yn fyw. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn derbyn atgyfeiriadau gan asiantaethau, neu atgyfeiriadau o’r carchar ac yn ystyried pob cais yn unigol. Bydd y meini prawf yn cynnwys y sawl sydd yn gadael y carchar ac wedi, neu yn camddefnyddio, opioid ac yn dymuno help.

Mae modd i ni ddanfon ffurflen atgyfeirio atoch pan fydd y gwasanaeth ar gael.

Adnoddau