Am y Prosiect
Mae Carchar o Fewn Cyrraedd yn brosiect sy’n canolbwyntio ar helpu pobl yn HMP Berwyn a HMP Styal gyda materion cyffuriau ac alcohol. Gweithiwn gydag unigolion cyn iddynt gael eu rhyddhau ac wedi iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar. Rydym yn helpu pobl i ddechrau ar eu siwrnai adferiad trwy adeiladu llwybr adferiad sydd wedi ei deilwra ar eu cyfer nhw yn unigol. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys y chwe sir yng Ngogledd Cymru, o Ynys Môn i Wrecsam, ac yn gweithio o HMP Berwyn gyda gwrywod a HMP Styal gyda’r menywod. Mae Carchar o Fewn Cyrraedd yn wasanaeth pwysig gan ei fod yn rhoi trosglwyddiad llyfn o ofal i rai sy’n gadael y carchar ac yn ôl i’r gymuned.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae’r bobl rydym yn eu cefnogi yn bobl sydd yn y carchar sydd â phroblemau gyda chyffuriau ac alcohol sy’n dymuno cael adferiad. Mae gan lawer o’r unigolion hyn droseddau sydd o ganlyniad i defnyddio sylweddau, ac yn aml o dan eu dylanwad tra’n cyflawni’r troseddau hyn. Cynigiwn adsefydlu, dadwenwyno, un-i-un, ymyrraethau seicogymdeithasol i unrhyw un sy’n byw yng Ngogledd Cymru wrth gael eu rhyddhau. Mae’r sesiynau seicogymdeithasol yn cynnwys sesiynau megis atal atgwympo, sbardunau, lleihau niwed, a chyfweld ysgogol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r prosiect yn cefnogi pobl sydd yn y carchar fyddai’n hoffi ymwrthod a bod mewn adferiad o unrhyw sylweddau. Mae gennym y contractau gyda Rehab Cymru hefyd felly gallwn wneud cais am adsefydlu y mae’r unigolyn yn dymuno ceisio amdano os ydynt yn credu y bydd yr adsefydliad o les iddynt, gyda’r gobaith o leihau’r graddfeydd aildroseddu ar gyfer yr unigolion hynny tra’n caffael adferiad ac ymwrthodiad o sylweddau. Dechreuwn y broses fel bod trosglwyddiad esmwyth o’r ddalfa yn ôl i’r gymuned gyda llwybr adferiad yn ei le.
Atgyfeirio
Mae’n rhaid i unigolion fod yn byw yng Ngogledd Cymru pan maent yn cael eu rhyddhau a bod yn 18 oed neu’n hŷn i fod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â:
sophie.lewis@dechraunewydd.com
tony.ormond@kaleidoscope68.org
george.james@adferiad.org
referrals.nw@kaleidoscope.cjsm.net