Am y Prosiect
Mae Noddfa Sir Gaerfyrddin, sydd wedi ei leoli yn nhref Caerfyrddin, yn gwasanaethu dros Sir Gaerfyrddin i gyd. Rydym yn wasanaeth allan o oriau ar gyfer unrhyw un sydd mewn perygl o argyfwng iechyd meddwl. Gallwn gynnig cefnogaeth emosiynol naill ai dros y ffôn neu wyneb-yn-wyneb, a byddwn yno fel clust i wrando i unigolion sydd eisiau rhannu rhywbeth. Gallwn gynnig cefnogaeth drwy atgyfeirio neu arwyddbostio i wasanaethau eraill yn benodol i anghenion pob unigolyn. Gobeithiwn wella hwyliau a llesiant pob unigolyn, lleihau mynediadau i’r ysbyty, a lleihau’r risg o niwed i bobl yn eu cartrefi.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unrhyw un 18 oed neu uwch a all fod angen cefnogaeth gyda: problemau perthynas, pryderon ariannol, trais yn y cartref, unigrwydd ac ynysu, straen a gorbryder, hwyliau isel, colled, materion cyflogaeth, a dirywiad iechyd meddwl o ganlyniad i amrywiaeth o ffactorau.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Cynigiwn ofod diogel mewn amgylchedd clyd a chroesawgar ar gyfer defnyddwyr i siarad a rhannu, neu dim ond i gael ychydig o amser distaw a phaned o de. Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau; ar gyfer unrhyw un sydd angen dillad glân a chawod mae gennym y cyflesterau i’w helpu, a gallwn ddarparu pryd bwyd neu ddigon o gyflenwadau i gadw’r unigolyn yn mynd nes y gallent fynd i fanc bwyd, a gallwn hefyd ddarparu taleb ar gyfer hynny. Yn wahanol i wasanaethau gyda’r nos eraill, cynigiwn gefnogaeth wyneb-yn-wyneb, gan asesu diogelwch a llesiant unigolion cyn iddynt ddychwelyd gartref, gydag atgyfeiriadau i wasanaethau eraill fel y bo’n briodol.
Atgyfeirio
Gellir atgyfeirio neu hunan-atgyfeirio unrhyw un 18 oed neu uwch weithiwr proffesiynol atgyfeirio i’r gwasanaeth trwy glicio yma.
Gallwn gefnogi unrhyw un sy’n byw o fewn Sir Gaerfyrddin.
Os hoffech fwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn uchod.