Am y Prosiect
Mae Noddfa’n wasanaeth cerdded i mewn sy’n darparu cefnogaeth a gweithgareddau grwp i bobl sy’n profi problemau gyda’u llesiant meddyliol. Rydym wedi ein lleoli mewn amgylchedd croesawgar a chlyd. Mae’r gwasanaeth wedi ei leoli yn Aberaeron ac yn gweithio o adeilad y Royal British Legion. Rydym yn agored ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9.3yb a 2.30yp
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Darparwn wasanaeth i bobl a allai fod yn dioddef gyda hwyliau isel, straen, gorbryder, pryderon ariannol, a phryderon teuluol neu berthynas. Darparwn ymagwedd ymarferol, therapiwtig, cyfannol, a pherson-ganolog i gefnogi pobl.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae Noddfa’n anelu i gefnogi datblygiad sgiliau allweddol mewn ardaloedd sy’n cynnwys gwella galluoedd, hyder, a chynyddu annibyniaeth. Rydym yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu a hyder drwy annog aelodau i gymryd rhan mewn trafodaethau, grwpiau adferiad, a gweithdai hunan-fynegiant. Rydym hefyd yn darparu gweithgareddau grwp a gweithdai i helpu unigolion i oresgyn profiadau o ynysiad ac i gefnogi integreiddiad o fewn y gymdeithas. Darparwn weithgareddau’n cynnwys tai chi, ioga, celf a chrefft, cerddoriaeth, teithiau allan, cwisiau a chiniawau cymunol.
Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau gan feddygon teulu a’r sector eilaidd, yn ogystal ag o asiantaethau trydydd sector a gofalwyr. Derbynir hunan-atgyfeiriadau gan unigolion hefyd.
Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.