Noddfa

Sir:

Ceredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Mawrth 9.30am-2.30pm
Dydd Iau 9.30am-2.30pm

Am y prosiect

Mae Noddfa yn gweithredu o adeilad y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Aberaeron.
Mae’r gwasanaeth yn darparu gweithgareddau grŵp a gweithdai sydd yn cael eu dylunio’n benodol i helpu pobl i oresgyn profiadau o arwahanrwydd ac integreiddio a chefnogi o fewn y gymuned. Mae Noddfa yn ceisio cefnogi datblygiad sgiliau allweddol mewn meysydd sydd yn adeiladu gallu, hyder ac annibyniaeth bellach.
Mae’r gwasanaeth yn ceisio hyrwyddo a’n datblygu cysylltiadau cymunedol ac integreiddio o fewn ardal Aberaeron.
Mae gweithdai yn cael eu cynnal yn gyson a’n cynnwys:

  • Dawnsio; Ioga yn y gadair Celf a chrefft; Canu a gweithgareddau cerddorol; Tai Chi; Posau.
  • Rydym yn cynnal teithiau i leoedd o ddiddordeb.
    Mae’r gwasanaeth hefyd yn ceisio hyrwyddo hyder a sgiliau cyfathrebu drwy annog unigolion i gymryd rhan mewn trafodaethau a grwpiau adferiad a gweithdai hunan-fynegi.
    Rydym yn darparu cinio cymunol cyson a maethlon.

Mae’r gwasanaeth hefyd ar gael ar gyfer pobl sydd yn galw heibio. Tra nad yw’r gwasanaeth yn darparu ymyriadau ffurfiol ar gyfer argyfyngau, mae defnyddwyr gwasanaeth yn medru cael yr opsiwn i gysylltu gyda’r gwasanaeth y tu hwnt i oriau swyddfa arferol os am gymorth. Mae modd gwneud hyn dros y ffôn neu ar e-bost.

Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli a chynnig cymorth i eraill. Mae’r gwasanaeth yn recriwtio gwirfoddolwyr. Mae diwylliant o helpu’n gilydd hefyd yn cael ei annog o fewn y gwasanaeth. Mae gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth i chwarae rôl o fewn y gymuned a gwella cyfleoedd ar gyfer mwy o ymrymuso ac annibyniaeth.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ac Awdurdod Lleol Ceredigion

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Iechyd meddwl.
Mae’r holl lwybrau atgyfeirio yn cael eu hystyried a’n cynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol; Meddygon Teulu; sector gwirfoddol; yr heddlu; prifysgol leol; gofalwyr a hunan-atgyfeiriadau.

Adnoddau