Llys Glan yr Afon

Sir:

Powys

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr
365 diwrnod y flwyddyn

Ffôn:

01686 807860

E-bost:

jane.jerman@aol.com

Am y Prosiect

Mae Adferiad yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys (y corff comisiynu), a’r asiantaeth rheolaeth tai, y West Wales Housing Association (WWHA) i ddarparu gofal a chefnogaeth ar y safle 24 awr y dydd ar gyfer unigolion sy’n byw o fewn datblygiad o 48 o fflatiau wedi eu hadeiladu’n bwrpasol, yn Llys Glan yr Afon. Mae cynlluniau gofal ychwanegol, megis Llys Glan yr Afon, yn darparu dewis arall i unigolion yn hytrach na gofal preswyl, gofal nyrsio, neu lety lloches, ac yn galluogi unigolion i fyw yn eu cartref eu hunain ar y safle. Anelai i ddarparu ‘cartref am oes’ hyd yn oed os yw anghenion yr unigolyn yn newid dros amser.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

I gael eu hystyried ar gyfer fflat yn Llys Glan yr Afon, mae’n rhaid i unigolion fod 18 oed neu uwch gydag angen gofal a chefnogaeth. Rhoddir flaenoriaeth i bobl sy’n byw ym Mhowys yn barod.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darperir gefnogaeth 24/7 ar sail ad hoc (drwy’r system cloch galw sy’n hygyrch yng nghartref pawb), ac yn rheolaidd (drwy ymweliadau wedi’u comisiynu), megis ddwywaith y dydd neu’n amlach os oes angen. Mae’r gwasanaeth hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda thimau nyrsio cymunedol lleol, darpariaethau iechyd eraill, a darparwyr cefnogaeth eraill. Mae’r gefnogaeth yn seiliedig ar anghenion a aseswyd, chwantau a dewisiadau personol unigolyn gyda’r nod o hyrwyddo llesiant a chyflawni eu canlyniadau a nodwyd.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cefnogaeth gyda gofal personol
  • Cefnogaeth gyda maeth a hydradiad
  • Cefnogaeth gyda meddyginiaeth ar brescripsiwn
  • Cefnogaeth gyda symudedd
  • Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cynhwysiad cymdeithasol

Atgyfeirio

I gael eich atgyfeirio i’r gwasanaeth mae’n rhaid i chi fod dros 18 oed gydag angen gofal a chefnogaeth. Rhoddir flaenoriaeth i’r rhai sy’n byw ym Mhowys.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 07970 432836, 07766 111077, neu layla.gittins-thomas@adferiad.org