Am y prosiect
Llys Glan yr Afon, Drenewydd – Cynllun Gofl Ychwanegol
Mae Adferiad yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys (corff comisiynu), a’r asiantaeth Rheoli Tai, West Wales Housing Association (WWHA) wrth ddarparu gofal a chymorth ar y safle 24 awr y dydd ar gyfer unigolion sydd yn byw o fewn y datblygiad 48 fflat, Llys Glan yr Afon.
Mae cynlluniau Gofal Ychwanegol, fel Llys Glan yr Afon, yn rhoi cyfle i unigolion i ystyried opsiwn wahanol yn hytrach na gofal preswyl, gofal nyrsio neu dai gwarchod, gan ganiatáu unigolion i fyw yn eu cartrefi o fewn y safle gyda drws ffrynt eu hunain. Mae’n ceisio cynnig ‘cartref am fywyd’, hyd yn oed os yw anghenion yr unigolyn yn newid dros amser.
Mae Adferiad yn gyfrifol am ddarparu’r elfennau cymorth a gofal o’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu o fewn Llys Glan yr Afon. Mae hyn yn cael ei ddarparu o fewn cartrefi er mwyn cefnogi eu lles a’u hannibyniaeth ac yn diwallu anghenion a disgwyliadau newidiol yr unigolyn, gan ganiatáu iddynt fyw mor annibynnol ag sydd yn bosib yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu 24/7 boed yn ad hoc (drwy system gloch sydd yng nghartref pob unigolyn) neu’n fwy rheolaidd (ymweliadau wedi eu comisiynu) fel dwywaith y dydd neu’n fwy cyson os oes angen ac yn seiliedig ar anghenion, dyheadau yr unigolyn er mwyn hyrwyddo lles a chyflawni’r hyn sydd ei angen. Mae hyn yn cynnwys:
- Cymorth gyda Gofal Personol.
- Cymorth gyda Maetheg a Hydradu.
- Cymorth gyda Meddyginiaeth Presgripsiwn.
- Cymorth gyda Symuded.
- Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda thimau nyrsio y gymuned leol, darpariaethau iechyd meddwl a darparwyr cymorth eraill.
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Er mwyn cael eich ystyried am fflat yn Llys Glan-yr-Afon, rhaid i chi fod yn:
- 18+
- Meddu ar angen gofal a chymorth
Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl sydd eisoes yn byw ym Mhowys.
Er mwyn dysgu mwy am fyw yn Llys Glan yr Afon, ffoniwch 0800 052 2526 neu e-bostwich contactus@wwha.co.uk