Hwb Iechyd Meddwl a Llesiant Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Ngogledd a Gorllewin Cymru

Sir:

Ceredigion Conwy Gwynedd Sir Benfro Sir Ddinbych Sir Fflint Sir Gaerfyrddin Wrecsam Ynys Môn

Manylion cyswllt

Ffôn:

02920 368888

E-bost:

info@diverse.cymru

Am y Prosiect

Mae Hwb Iechyd Meddwl a Llesiant Diverse Cymru’n cynnig gwasanaethau sy’n seiliedig ar adferiad ar gyfer Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n byw yng Ngogledd a Gorllewin Cymru a effeithir gan salwch meddwl. Cymerwn ymagwedd gyfannol gan ddefnyddio dulliau sy’n ffocysu ar ddatrysiad, sy’n hyrwyddo adferiad, grymuso a byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae ein prosiect hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth mewn materion sy’n ymwneud â materion iechyd meddwl Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac yn helpu i leihau anghyfartaledd. Anelwn i gynnig dealltwriaeth a chefnogaeth sy’n anfeirniadol mewn ardaloedd fydd yn helpu i ffocysu ar adferiad.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn wasanaethau sy’n seiliedig ar adferiad i Bobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n 16 oed ac uwch, yn byw yng Ngogledd a Gorllewin Cymru sydd wedi eu heffeithio gan salwch meddwl.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Cymerwn ymagwedd gyfannol, gan ddefnyddio dulliau sy’n ffocysu ar ddatrysiad, sy’n hyrwyddo adferiad, grymuso a byw’n annibynnol yn y gymuned. Gallwn gynnig:

  • Cefnogaeth ac eiriolaeth unigol, wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • Cymorth cymunedol
  • Gwybodaeth a chyngor
  • Cyfleoedd cyfeillio a gwirfoddoli
  • Arwyddbostio ar gyfer unigolion ac aelodau’r teulu a gofalwyr
  • Ymweliadau ysbyty ar gyfer cleifion mewnol

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau gan bobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn ogystal â cheiswyr lloches / ffoaduriaid. Gweithiwn gyda phobl o 16 oed ac uwch, sy’n byw yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Cymru sydd â salwch meddwl. Gallwch gael eich atgyfeirio drwy asiantaethau eraill neu hunan-atgyfeirio drwy ein ffurflen atgyfeirio ar-lein yn www.diversecymru.org.uk. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â samira.salter@diverse.cymru am Orllewin Cymru neu chloe.kalter@diverse.cymru ar gyfer Gogledd Cymru.